Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/369

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

8. Y Mae eglwys Crist yn gymdeithas ragbarotoawl i sefyllfa uwch eto. Mae yr olwg arni yn hardd yn awr i lygad ffydd, ond ceir ei gweled yn llawer harddach eto. Ysbyty ydyw yn awr lle y gwellheir y cleifion. Athrofa ydyw i ddysgu egwyddorion teyrnas nef. Nursery, i ddysgu moesau i'r teulu, nes eu parotoi i ddyfod adref i'r parlwr tragywyddol fry!

CASGLIADAU.

1. Dysgwn fawrhau ein braint o feddu aelodaeth yn eglwys Crist, a lle yn mhlith y teulu.

2. Dysgwn wybod pa fodd y dylem ymddwyn yn nhy Dduw, a'r pwys mawr o ymddwyn yn deilwng o'r fath freintiau.

3. Ymdrechwn enill eraill i ymostwng i awdurdod Brenin Seion, ac i ymwasgu â'i ddysgyblion, tra y mae y gweision allan yn gwahodd, a'r drws heb ei gau.

GEMAU EVERETT.

Dechreu Diwygiad.—Mae dechreu i fod ar ddiwygiad mewn crefydd, fel pethau eraill, a rhaid iddo ddechreu mewn rhyw fynwes; a phaham, ddarllenydd, na ddylai ddechreu gyda thi?

Yr Iesu fel Rhosyn.—Fel y mae'r olwg naturiol ar y rhosyn yn hardd a deniadol, felly mae yr olwg foesol ac ysbrydol ar Fab Duw, yn ei berson a'i waith, yn hawddgar, ac yn tynu bryd miliynau o'r nefolion a'r daearolion hefyd. Y rhosyn sydd amryliw, a chyfartalwch y lliwiau sydd brydferth; felly mae amrywiaeth a chyfartalwch gogoneddus yn rhinweddau a