Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/370

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

doniau y Cyfryngwr. A chan mai y prydferthaf o'r blodau yw y rhosyn, a'r prydferthaf o'r rhosynau ydoedd rhosyn Saron, felly mae yr Arglwydd Iesu yn rhagori ar bawb a phobpeth.

Tarw Gwyllt mewn Magl (Esa. li. 20).—Golwg arswydlawn sydd ar y ar y "tarw gwyllt" pan y cwympo i faglau grymus yr heliwr; ond gwedi y dalier ef, ac wedi iddo ymguro nes canfod nas gall ddianc, mae yn gorwedd mewn digalondid yn gwbl lonydd. Felly gelynion yr Arglwydd, er mor wyllt yn awr, pan ddelir hwy yn maglau eu pechodau a'u traha, ni bydd ganddynt ond ymollwng megys mewn "llewygfeydd " a digalondid tragywyddol !

Llen Amser.—Llaw drugarog a wauodd y llen sydd rhyngom a phethau i ddyfod.

Y Fendith Felusaf.—Duwioldeb ydyw y fendith sydd yn melysu pob bendith arall.

Purdeb yn Dedwyddu Teulu'r Nef.—Bydd dedwyddwch y nef yn gynwysedig yn mhurdeb perffaith y saint eu hunain. Eu prif ofid ar y ddaear oedd eu bod heb gyrhaedd y nod yma. Ond yno y maent wedi ei gyrhaedd. Nid â i mewn iddi ddim aflan.

Deddfau Dirwestol.—Dywedir mai moddion moesol a ddylent gael eu defnyddio gyda yr achos dirwestol. Yr ydym ninau yn meddwl y dylai moddion moesol gael eu defnyddio yn barhaus; ond pan y mae deddfau drwg yn bod, a'r deddfau hyny wedi eu ffurfio gan y bobl, trwy eu cynrychiolwyr, mae eisiau defnyddio moddion moesol i berswadio y bobl i gyfnewid y cyfryw ddeddfau, a ffurfio rhai gwell. Ac y mae eisiau