Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/372

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drechiadau yn cael eu gwneyd i ymosod yn erbyn y genllif yma, eto, o annuwioldeb yr oes.

Rhyfel Moesol.—Mae rhyfel yn perthyn i deyrnas y Messiah; ond nid rhyfel trwy drwst a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed ydyw—difa y rhai hyny a wneir ond hwn sydd ryfel egwyddorion; ac a derfyna mewn cadarnhau "barn a chyfiawnder ar y ddaear," ac yna "ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd."

Dirwest.—Mae dirwest yn cynwys cymedroldeb mewn mwynderau cyfreithlawn, a llwyr ymwrthodiad â mwynderau anghyfreithlawn.

Nac Oeda.—Nac oeda, o herwydd mae dy ddedwyddwch penaf yn gynwysedig mewn ufuddhau i Dduw. Y foment y dechreuwn ufuddhau, yr ydym megys yn dechreu derbyn gwobr. Nefoedd i'r enaid ydyw rhodio llwybrau y nef; y mae grawn—sypiau y wlad i'w cael bob cam o'r ffordd: nac oeda.

Enllib.—Cyhuddir llawer un, y dyddiau hyn, o enllibio y caethfeistri. Ond gwyr pawb nad enllibio yw dyweyd y gwir. Os dywedir anwiredd ar gaethfeistri, mae hyny yn enllib; ond os y gwir a ddywedir, nid enllib yw.

Gogoneddu Duw.—Beth a olygir wrth ogoneddu Duw? Nid ychwanegu at ei ogoniant hanfodol a feddylir, ond ei ogoniant mynegol. Nis gall neb ychwanegu dim at ei ogoniant hanfodol, na thynu dim oddiwrtho. Mae ei ogoniant hanfodol yn ymddibynu ar yr hyn ydyw ynddo ei hunan. Nis gall y saint ar y ddaear nac yn y nef, na'r côr angylaidd, trwy eu nefol