Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/373

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganiadau, ychwanegu dim at ei ogoniant hanfodol; ond fe ellir effeithio ar ei ogoniant mynegol (his declarative glory). Pe codai cwmwl du ar y ffurfafen, ni effeithiai hyny ddim ar oleuni ysblenydd yr haul ynddo ei hunan; ond ataliai ei dywyniad dros amser. Felly gall ein hymddygiadau ninau fod yn gwmwl ar yr enw mawr.

Mamau Drwg.—Llawer a geir, trwy eu tymerau drwg, eu llywodraeth anwastad, eu didduwiaeth a'u caledwch, yn gosod traed eu plant ar lithrigfa sydd yn arwain i ddinystr a cholledigaeth! O famau! ystyriwch mewn pryd pa ddylanwad a effeithiwch ar eich plant.

Y Pen Teulu Anghrefyddol.—Y mae anghrefyddoldeb pen teulu yn un o'r moddion effeithiolaf a fedd y diafol i gadw ieuenctyd y teulu hwnw yn ei wasanaeth.

Y Beibl a Moesau.—Er fod llawer o reolau buddiol wedi eu cyhoeddi i wellhau moesau y byd, eto fe bery nwydau llygredig dynion yn fyw ac yn ffynadwy yn mhob awyr, ond yn awyr y Beibl ac awyr y groes.

Cristion Rhydlyd.—Beth ydyw yr achos fod y dyn mor dlawd ei brofiad, mor rhydlyd yn ei weddiau ? Nid yw yn ymarfer duwioldeb gartref.

Y Brif Gymdeithas.—Y gymdeithas deuluaidd ydyw y brif gymdeithas. O'r aelwyd gartref y cyfyd bendithion a melldithion penaf y gymdeithas gyhoeddus a'r wladwriaeth.

Pwyth Hir.—Y mae gan rai bwyth go hir i'w dalu yn ol i'w rhieni.