Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/374

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Digonolrwydd yr Iawn.—Y mae y taliad a roddwyd yn aberth iawnol Mab Duw yn ddigonol ar gyfer cadwedigaeth y byd; a phe buasai miliynau mwy o fodau i'w cadw, mae yr aberth yn ddigonol.

Gwerth y Beibl.—Ni chynwys palasau breninoedd y ddaear drysor mor werthfawr a'r Beibl, yr hwn, o drugaredd Duw, a geir yn aneddau y tlodion. Pe byddai y moroedd yn olew, a'r ddaear yn belen auraidd, ni fyddent ond gwegi mewn cydmariaeth i werth Gair Duw i ddyn.

Anghysondeb.—O,'r fath anghysondeb! baner fawr rhyddid yn chwareu yn y teneu awelon ar ben pinacl y senedd—dy, a'r gair Liberty ar ei lleni mewn llythyrenau mor freision ag y gall y rhai a redant eu darllen; ac eto o flaen grisiau marmoraidd y senedd—dy, yn ngwydd haul y nefoedd, y gwerthir gwyr a gwragedd, meibion a merched o bob oedran, o'r baban egwan i'r henafgwr penllwyd, i gaethfeistri, i gael eu harwain ganddynt wrth eu hewyllys.

Crefydd Foreu.—Y mae crefydd yn moreu yr oes yn werthfawr, oblegid dyma'r pryd y mae cyneddfau corph a meddwl yn yr agwedd a'r sefyllfa oreu. Mae y deall yn gyneddf fywiog, mae'r cof yn llestr cryf, mae'r gydwybod heb ei sori. Yr amser goreu ydyw; ac fe ddylai yr amser goreu gael ei dreulio gyda'r achos goreu, ac i'r Bôd goreu. Anmhriodol iawn ydyw rhoddi yr yr amser goreu i'r gelyn, a'r gweddill i'r Arglwydd.

Dysgu Plant.—Y mae plant ieuenctyd fel y "saethau yn llaw y cadarn," ac y mae o bwys mawr i ni pa