Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/379

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT GOFIANT Y PARCH. R. EVERETT, D. D.

Da genyf, fel y mae gan y cyhoedd yn gyffredin, ddeall fod parotoadau ar droed i ddwyn allan gofiant i'r Parch. R. Everett, D. D., a gyfrifir gyda'r mwyaf teilwng o'r teitl hwnw, ac o gofiant anrhydeddus. Cyfyngir yr ychydig hanes allaf roddi am dano i foreuol a chanol dymor ei oes lafurus. Y cof cyntaf sydd genyf yw am ei darawiad allan mor gyhoeddus o'r athrofa, a'i gyfaill cu y diweddar J. Breeze, gynt o Liverpool, ar y daith gyntaf, a thebyg y ddiweddaf, trwy Ddeheudir Cymru, a thrwy ein hardal ni, Abertawe, Morganwg, a'i chylchoedd. Cyfrifid ef y pryd hwnw gyda'r mwyaf doniol a phoblogaidd o bregethwyr y Dywysogaeth. Mynent yn Abertawe roddi galwad unfrydol yn uniongyrchol iddo. Yr oedd yr eglwys enwog hono yn debyg i'r eglwys yn Corinth gynt, yn gyfoethog o ddoniau, agos yn barod megys i addoli doniau; ac nid oedd neb mwy parod na mwy chwaethus na medrus i adnabod a gwerthfawrogi doniau. Hi gafodd ei geni a'i magu dan weinidogaeth swynol yr enwog D. Davies—"Tafod Arian Cymru."

Ar eu dychweliad adref cafodd y tri enwogion, agos yr un pryd, eu hordeinio—y Parch. R. Everett yn Dinbych, J. Breeze yn Liverpool, a T. Davies, genedigol o ardal Dinbych, yn Abertawe. Nid annhebyg mai trwy ohebiaeth a dylanwad Mr. Everett y cafodd Mr. Davies alwad yr eglwys hono.

Wed'yn, pan aeth dau o honom allan o'r Neuaddlwyd, lle yr oeddem dan ofal y Dr. T. Phillips, ar daith bregethwrol trwy'r Gogledd, a disgyn ar Sab-