Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/380

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

both yn Newmarket, cawsom ymweliad parchus a charedig iawn â rhieni—tad a mam Mr. Everett, a'i frawd Lewis, yr hwn a ddaeth at ddrws y pwlpud i siglo llaw yn wresog â ni. Yr oedd hyny oddeutu yr amser y dechreuodd y brawd Lewis bregethu yr efengyl, yr hwn waith a ddilynodd yn llafurus trwy ei oes i'w diwedd. Yr oedd iddynt, fel teulu, air da gan bawb a welsom, fel teulu cyfrifol a chrefyddol iawn, ac yn enwedig yn ol tystiolaeth enwogion eu dydd, y ddau Jones o Newmarket a Threffynon.

Ond yr adnabyddiaeth bersonol gyntaf â'r Dr. Everett oedd yn Utica, N. Y., yn 1833, yr ail flwyddyn ar ol fy nyfodiad i'r wlad hon, pan oeddwn yn meddwl dychwelyd gyda brys i Gymru yn ol; ond bu fy ymweliad hoffus ag ef, a'i diriondeb fel tad i mi mewn gwlad estronol, yn foddion i loni fy meddwl, gyda'm bod yn gwellhau yn fy iechyd, pan oedd agos pawb ar fy ymadawiad â Chymru hoff, wedi fy rhoddi i fyny i farw; canys ar gyngor y meddyg goreu genyf y cymerais y fordaith i'r America, fel yr unig foddion o'm hadferiad. Profodd felly trwy diriondeb y Nefoedd. Ac wrth fy mod yn hoffi trefniadau a llywodraeth y wlad, yn unol a'i ddwys gyngorion haelfrydig ef, arosais ynddi agos i saith mlynedd. Ond o herwydd pellder y lle yr oeddwn yn aros ynddo ni chefais y fantais o'i gyfrinach ef, ond ar ben pob blwyddyn, pryd y gwahoddid fi i Gymanfaoedd Utica a Steuben; pan yr anadlwn mor hyfryd allan o blith y Saeson, er cystal oeddent hwy, awyr fresh gyda'r Cymry serchog a charedig iawn yn y Gymanfa.

Gwyr pawb o ddarllenwyr y cofiant fod enwogrwydd ei wrthddrych mor adnabyddus i Gymry a