Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Annibynwyr, y rhai oeddynt yn gyfarwydd a golygiadau Edward Williams ac Andrew Fuller, a deimlent yn anfoddlon i'w henwad gael ei wthio i'r tir hwnw, Canfyddent fod hyny yn rhoddi mantais ddirfawr i Arminiaeth weithio ei ffordd. Credent fod yr hyn a elwir Calfinaeth Gymedrol, neu a adwaenir yn y wlad hon wrth yr enw Duwinyddiaeth Lloegr Newydd, a Duwinyddiaeth New Haven, yn fwy cyson â'r Ysgrythyrau; a chyhoeddasant eu golygiadau o'r areithfaoedd a thrwy y wasg. Ya 1816 cyhoeddodd J. Roberts, Llanbrynmair, ddau lythyr ar ddybenion marwolaeth Crist, ac yn 1819 cyhoeddwyd beirniadaeth arnynt gan Thomas Jones o Ddinbych. Mewn atebiad i hwnw cyhoeddodd J. Roberts sylwadau pellach ar y mater, ac yn niwedd y llyfryn hwnw yr oedd ysgrif ar Iawn Crist gan Williams o'r Wern; ar Nad all Anghrediniaeth dyn ddim gwneyd Trefn Duw yn Ofer, gan Morgans, Machynlleth; ar y Cysylltiad sydd rhwng Iawn Crist a Llywodraeth Jehofa, gan Michael Jones, Llanuwchlyn; ar yr Ewyllys Ddwyfol, gan Griffiths, Tyddewi; ar Alwad yr Efengyl, gan Breese, Liverpool; ar Brynedigaeth, gan Everett, Dinbych; ac Ol-ysgrif gan Jones, Dolgellau. Gelwid y llyfr hwn "Y Llyfr Glas," oblegid fod amlen o bapyr glas am dano, a gwnaeth gynhwrf mawr yn y wlad. Byddai llawer yn curo, ac yn drwgliwio ei awdwyr fel Arminiaid a chyfeiliornwyr, ond gweithiodd ei egwyddorion eu ffordd nes enill cymeradwyaeth y dosparth mwyaf meddylgar yn y Dywysogaeth. Heblaw y rhan a gymerodd Dr. Everett yn nygiad yn mlaen ddadleuaeth dduwinyddol ar y pynciau yna, cymerodd ran hefyd yn nygiad allan y Dysgedydd fel cyhoeddiad misol i'r enwad. Teimlodd