Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Finney allan yn efengylydd teithiol, llawn o eneiniad sanetaidd a thân apostolaidd, a byddai nerthoedd rhyfeddol yn cydfyned a'i bregethiad. Dr. Lyman Beecher, wrth ganfod y difrod wnelai anghymedroldeb yn y wlad, canfod myglys a gwirod yn cael eu defnyddio mewn dau gyfarfod urddiad, a chanfod gweinidog. ion yn yfed mewn cyrddau mawrion nes myned yn llawen, nid yn feddw, ond yn llawen, a lanwyd a braw, cywilydd a digllonedd, ac yn y flwyddyn 1825, efe a bregethodd chwech o bregethau grymus yn erbyn annghymedroldeb, y rhai a argraffwyd ac a gynhyrfasant y wlad, nes arwain, y flwyddyn ganlynol, i ffurfiad y Gymdeithas Ddirwestol. Yr oedd y pethau hyn oll yn dylanwadu yn rymus ar feddwl Dr. Everett, nes ei lenwi & brwdfrydedd diwygiadol, ae â llawer o ysbryd cyhoeddus.

Mewn llythyr i Gymru yn 1826, dywedai, "Y mae yn America wyth o gymdeithasau yn cael eu dwyn yn mlaen yn debyg i'r Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a'u cynal gan wahanol enwadau o Gristionogion. Y Feibl Gymdeithas Americanaidd, y Gymdeithas Genhadol Gartrefol, y Gymdeithas Genhadol Dramor, y Gymdeithas Draethodol Americanaidd, y Gymdeithas Addysgol i barotoi dynion ieuainc i'r Weinidogaeth, Undeb Americanaidd yr Ysgolion Sabbothol, y Genhadaeth Iuddewig Americanaidd, a'r Gymdeithas i Addysgu y Negroaid, y rhai a ddygwyd i'n gwlad fel caethion. Y mae'r rhai yna oll yn anrhydedd i'r oes oleu hon." Darlunia waith rhyfeddol o eiddo yr Ysbryd Glan a gymerodd le yn 1826, a dywed fod yn Sir Oneida dros ddwy fil a haner wedi cael tröedigaeth, a bod dros ddau cant wedi eu