Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Diweddar Barch , Robert Everett, D. D.

GAN Y PARCH . T. EDWARDS, PITTSBURGH , PA

Mae enw Dr. Everett yn adnabyddus yn y wlad hon ac yn yr Hen Wlad, ac yn hynod o barchus, oblegid ei fywyd addas i'r efengyl a'i ymdrechiadau o blaid achosion daionus. Daeth ei enw yn fwy hysbys i'r genedl pan osodwyd ef yn olygydd y Cenhadwr. Yr oedd awydd mawr ar laweroedd i'w weled ar ol darllen y Cenhadwr; ac yn y flwyddyn 1858 gwnaeth ef a'r Parch. D. Price dalu ymweliad ag Ohio a Wisconsin, a bu hefyd yn Big Rock, Illinois. Yr oedd ef yr amser hwnw yn ymddangos yn iach neillduol, yn gryf ei lais, ac yn pregethu yn effeithiol a gwir efengylaidd, Fe gyfansoddodd rhyw fardd yr englyn canlynol iddo, yr hwn oedd yn hynod briodol:

Dwys, tan nef, a dystaw 'n awr—yw Everett,
A llyfr-gynwysfawr;
Corph bach heb anach unawr,
Dewin mwyn a doniau mawr.

Ar ol ei ddychweliad o'r daith uchod efe a ysgrifenodd atom fel hyn:

REMSEN, Gorph. 19, 1858.

Anwyl Frawd—Daethum adref yn ddiogel ac yn gysurus, ond yn lled flinedig, ar ol y daith faith trwy Ohio, Wisconsin, &c. Y mis diweddaf o'n taith ydoedd ddyddiau poethion iawn yn mron o hyd—a ninau yn fynych yn teithio mewn wageni, ac yr oedd y teithiau yn lled feithion. Yr oeddem yn pregethu ddwy neu dair gwaith yn fynych yn y dydd i gynulleidfaoedd lluosog o'n cenedl yn y gwahanol fanau. Cawsom