Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i roddi y gwrthryfel i lawr trwy rym arfau, nid mewn cleddyf nac mewn braich o gnawd yr oedd ei ymddiried ef. Dywedai yn rhifyn Mehefin, 1862: "Y mae ein crediniaeth am ddilead caethiwed yn myned yn ol yn mhellach na dim gweithrediad dynol, yn sylfaenedig ar air y digelwyddog Dduw, y bydd i bob drygau melldigedig o'r fath gael eu dileu cyn dyfodiad i mewn deyrnasiad cyfiawn a llednais y Messia dros y byd, yr hyn a ddaw yn ddiau cyn bo hir iawn."

Mewn llythyr dyddiedig Mai 15, 1861, at y Parch. T. Edwards, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Cincinnati, dywedai: "Byddaf yn meddwl yn fynych am danoch chwi a Mrs. Edwards yna yn swn y drums, ac mor agos i gaeth-dalaeth, ond nac ofnwch, mae'r Hwn sy'n gallu cuddio yn nirgelfa ei babell gyda chwi, ac efe a'ch ceidw yn ei law. Yr Arglwydd sydd yn teyrnnasu, gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer.' Gall efe droi cyngor Ahitopheliaid yn ffolineb, peri i gynddaredd dyn ei folianu ef, a gwahardd gweddill cynddaredd. Edrych yn lled dywyll y mae'r cwmwl du sy'n awr uwchben ein gwlad, ond gobeithiwn y tyr gwawr eto cyn bo hir iawn. Os nad yw aderyn y to yn syrthio i'r llawr heb ein Tad ni, diau fod goruwchlywodraeth ganddo ef dros hyn hefyd. Tra y mae ei farnau ef ar y ddaear, dysgwn ninau, fel Habacuc, i droi ato ar ran llwydd ei waith, &c. Rhaid i'r felldith gaethiwol gael ei dileu; ni ddaw y milflwyddiant i mewn heb hyny. Ond pa fodd y cyrhaedda efe hyny, nis gwyddom ni yn awr." Mewn darn o lythyr at Mr. Edwards, dyddiedig Chwef. 6, 1865, dengys ei bod wedi dyfod yn oleu ar ei feddwl o berthynas i'r modd yr oedd caethiwed i gael ei ddileu.