Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwyn allan y Cenhadwr am dros ddeng mlynedd ar hugain. Gwnaeth hyn yn ei deulu ei hun-y golygu a'r argraffu. Dyma ddull yr hen Gomer yn dwyn allan y Seren. Mae yn fanteisiol iawn i ddwyn allan fel hyn. Ni waeth beth fyddo doethineb yr argraffydd a'r cyhoeddwr os bydd y golygydd yn lelo; ac ni waeth beth fyddo gofal y golygydd os bydd yr argraffydd yn lelo. Ond yn y Cenhadwr yr oedd y ddau department o dan lygaid y Dr. ac yr oedd hyny yn ddigon. Hynodai y Dr. ei hun fel cyfaill caredig. Mae ger fy mron fwndel lled fawr o lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho yn ystod ein harosiad yn Tennessee; maent yn llawn o garedigrwydd ac ewyllys da i bawb a phob peth, yn enwedig i rinwedd, a moesau da, ac efengyl y tangnefedd.



Dyfyniadau o Bregeth ar Farwolaeth Dr. Everett,

GAN Y PARCH. T. M. OWENS.

[Traddodwyd yn New York Mills, Mawrth 14, 1875, oddiwrth ESA. lvii: 1, 2.]

Priodol iawn y gallwn gymwyso ein testyn at gymeriad, bywyd a diwedd yr anwyl a'r anfarwol Dr. Everett; yr hwn oedd yn ei holl fywyd yn llon'd cymeriad y testyn. Yr ydoedd yn wr cyfiawn, trugarog ac uniawn yn ei holl ffyrdd. Yr oedd deddf Duw yn ei galon; cywirdeb ac uniondeb oedd cyfraith ei fywyd. Nid yn aml y gwelwyd yn rhodio ar ein daear ni neb mwy diargyhoedd ei ymarweddiad; neb yn fwy nefolaidd ei ysbryd; neb yn fwy anwyl, gonest a didwyll yn ei fywyd; neb yn fwy cyson, ffyddlon a di-ildio gyda phob gwaith da. Yr