Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dim yn hynod o fawr na bach; ond dangoswyd yno deimladau cynes iawn wrth ei chyflwyno.

A chymeryd pob peth at eu gilydd, y mae Dr. Everett yn un o gymeriadau rhyfeddaf yr oes. Y mae ef yn America y peth ag ydyw Patriarch Troedrhiwdalar yn Nghymru. Dechreuodd ei waith yn moreu ei ddiwrnod, ac yn foreu iawn hefyd. Daliodd bwys a gwres y dydd, ac y mae wedi dal ati hyd yr hwyr. Yr oedd ar ganol maes y cynhauaf mawr er's triugain mlynedd ; ac y mae ar ganol y maes eto. Byw fyddo ef! Cyhyd a'i hen gydmar o Lanwrtyd! Gwelais Batriarch-lanc Cymru er's ychydig wythnosau yn ol. Dygwyddodd i'r ymddyddan fyned ar draws "Llanc Oneida." Dangosid yno anwyldeb digyffelyb. Nid peth bach ydyw cael dyn wedi treulio oes hir heb un blotyn du ar ei gymeriad. Nid wyf yn credu y gellid nodi dyn trwy yr holl fyd yn berffeithiach yn hyn na Dr. Everett. Mae hyn yn hanfodol i ddefnyddioldeb. Mae yn rhaid cael cymeriad da. Gwell i weinidog yr efengyl roddi y goreu iddi, oddieithr fod ei gymeriad uwchlaw amheuaeth. Mae rhai gweinidogion mor ddiofal am eu cymeriad, nes y mae ar yr eglwys ofn eu gweled yn myned dros drothwy eu ty, rhag i ryw aflwydd ddygwydd. Mae hyn yn sobr; ond pwy all ei wadu? A fu pryder fel hyn ryw dro gyda Phatriarch Remsen? Na, na.

Bu Dr. Everett hefyd yn weithiwr difefl. Bu ganddo ofal gweinidogaethol am driugain mlynedd; dyna lafur a gofal mawr. Mae ei lais weithian yn pallu i raddau wrth siarad a chynulleidfa fawr, ond yn mhob ystyr arall ymddengys ei fod yn ei gyflawn nerth.

Gorchest-gamp Dr. Everett fel gweithiwr oedd