Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Slavery Convention o dri chant o delegates, yn yr eglwys lle mae y Parch. Dr. Corey yn pregethu yn bresenol, pan ddaeth mob o bum' cant i mewn i'r lle am ein penau, a'r rhai hyny yn cael eu cefnogi gan wyr mawr y dref, er mwyn cadw i fyny anrhydedd Utica yn ngolwg caeth—feistri y De oedd yn perthyn i'r Congress yn Washington.

Yn ystod y ddwy-flynedd-a-deugain y bumi a'ch tad yn cydweithio yn y winllan, cefais aml gyfleusderau i wybod ei egwyddorion a theimladau ei galon. Ei brif addurn oedd ei dduwioldeb diamheuol. Yr oedd ef o egwyddor yn ofni pechu; yr oedd yn cilio oddiwrth bob drygioni; ac yn nesaf at hyny yr oedd ganddo fwy o lywodraeth arno ei hun na neb a adnabyddais erioed. Yr oedd yn hynod o dyner ei galon pan fyddai eraill o weision Iesu yn pregethu, ac yr oedd bob amser yn dra gwyliadwrus a gochelgar, nes bron a chario hyny i ormod o eithafion. Ond er hyny gorfu iddo ddyoddef llawer o bethau sy'n fawr drueni fod gweision yr Arglwydd yn gorfod eu dyoddef; ond y mae hyny yn awr yn mysg y pethau a fu; ac y mae yntau wedi cyrhaedd pen ei daith, efe a'i briod drwy eu holl lafur a'u trafferthion. Y maent wedi gorphen cario y groes, ac yn bresenol mewn meddiant o'r goron.



Dr. Everett yn ei Gysylltiad a Diwygiad 1838.

GAN Y PARCH. MORRIS ROBERTS, REMSEN.

MR. LEWIS EVERETT: Anwyl Frawd—Yr ydwyf wedi cadw cof am eich tad er pan oeddwn yn blentyn yn Llanuwchlyn, wrth glywed son am dano gan y bobl fel pregethwr da, ac un gobeithiol iawn o fod yn