Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddefnyddiol. Nid ydwyf yn cofio i mi ei glywed ef fy hun cyn ei glywed yn America, ond clywais lawer o son am dano yn nghyd â Hugh Pugh, y Brithdir; Williams, Cwmhyswn, neu y Wern ar ol hyny; a Williams, Llanwrtyd, a rhai eraill o bregethwyr ieuainc gobeithiol yn mysg enwad y Dissenters. Yn fuan wedi i mi ddechreu ar y gwaith o bregethu clywais ei fod yn ymfudo i'r America; a sylwais fwy yn ei gylch o herwydd fod fy nhad ar y pryd yn aros yn Utica, yn America; ac yr wyf yn cofio un peth mewn cysylltiad ag ef pan oedd ar gychwyn i'r wlad hon. Dygwyddais fod yn Llanuwchlyn yn cyd—gadw oedfa a Dafydd Cadwaladr, efe yn hen a minau yn ieuanc. Wedi myned i dy Owen Edward, Penygeulan, pryd yr oedd yn bresenol amryw o hen Fethodistiaid y lle, megys Evan Foulk, Edward y Fadog, &c., dechreuodd rhyw un ofyn i Dafydd Cadwaladr am y cyfarfod pregethu oedd newydd fod yn y Bala, ac a oeddynt yn pregethu y system newydd yn y cwrdd hwnw (oblegid dyna oedd testyn y siarad y pryd hwnw gan y Methodistiaid am y Dissenters). Atebai yr hen wr Dafydd Cadwaladr ei fod wedi bod yn y cyfarfod, a'u bod yn pregethu y Pwnc Newydd; ac, meddai, pe b'ai neb a wnai i mi gredu y Pwnc Newydd, yr Everett o Ddinbych yna a wnai hyny o flaen neb o honynt. Wel, meddai un arall, P'am hyny? Wel, meddai yntau, y mae'r olwg arno mor syml a difrifol, ei lais mor beraidd ag angel, a'i resymau yn gwbl glir a chedyrn. Wel, beth fu ef yn ei bregethu? Atebai, pregethu ar Freniniaeth Crist yr ydoedd, a dywedai fod Iesu Grist yn frenin yn mhob man, yn y nefoedd, yn uffern, ac ar y ddaear; a meddwn inau, ebe'r hen wr, os felly, pa ddyben son am