Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ogaeth. Yr oedd Mr. Evans yr ŵr tal a hardd o gorpholaeth, ymddangosai yn foneddigaidd a glanwaith yn mysg ei frodyr mewn cyfarfodydd. Gallesid dyweyd am dano fel am ŵr y wraig rinweddol, "Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad." Yr oedd ei ddawn llefaru yn hyawdl, ei lais yn rymus, "llefai heb arbed" ar brydiau wrth gyhoeddi trefn gras trwy y groes i achub pechaduriaid. Gwrthwynebai yn gadarn, fel amryw o'i gydoeswyr yn yr ynys hon, yr hyn a farnai efe yn groes i athrawiaeth iachus, gan enwad newydd a gododd yn ei ddyddiau. Dywed y Parch, W. Jones, iddo glywed Mr. Evans yn pregethu mewn cyfarfod gweinidogion, oddi ar Rhuf. xi., 6; "Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach," &c. Ar ol iddo ddatgan syniadau yr un a wrthwynebai, gwaeddai, "Esay bach, dyro help i guro y dyn yma." Yna dyfynai ran o Esaiah liii, a dywedai drachefn, "Dyna fe ar lawr;" ac yno y gadawodd ef. Derbyniodd Mr. Evans nifer mawr o aelodau i'r eglwys yn ystod y 30 mlynedd y bu yn llafurio yma. Ond gorfodid lluaws o honynt i fyned i leoedd eraill i enill eu bywiolaethau, yr hyn y cwynai efe yn fawr o'i herwydd, a theimlir y cyffelyb rwystr i luosogiad yr eglwys hon hyd y dydd hwn. Bu Mr. Evans yn cadw ysgol ddyddiol am lawer o flyneddau, a pherchid ef yn fawr gan ei hen ysgolheigion. Ond daeth henaint a gwaeledd i'w orfodi i roddi yr ysgol a'r weinidogaeth i fynu, rhoddodd yr olaf i fynu yn y flwyddyn 1825, ar ol llafurio yn Amlwch am 31 o flynyddau, ac yn Machynlleth, cyn dyfod yma, am ryw gymaint o amser. Bu yn byw am rai blyneddau, ar ol ymadael o Amlwch, yn Nhremadog lle y symudodd er mwyn bod yn agos i'w unig ferch. Pregethai yn achlysurol hyd nes i angau roddi terfyn ar ei fywyd yn 95 mlwydd oed. Yr oedd gan Mr. Evans un mab, o'r un enw âg ef ei hun, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, a nodedig am ei dduwioldeb. Dechreuodd bregethu pan yn bur ieuanc, ac wedi bod ar daith gyda 'i dad, dychwelodd gartref mewn gwaeledd, a bu farw yn mhen ychydig wythnosau. Claddwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Codwyd dau o bregethwyr yma yn amser Mr. Evans, heblaw ei fab ei hun. Un oedd y Parch. David Hughes, diweddar weinidog Trelech. Dechreuodd ar y gwaith mawr yn ieuanc, a chynyddodd mewn gwybodaeth nes dyfod yn ysgolhaig gwych, ac yn bregethwr rhagorol, ond gorphenodd ei yrfa yn gynar, a theimlir colled am dano yn y cymydogaethau a'r eglwysi lle y bu yn llafurio. Y llall ydyw y Parch. Hugh