Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Ymneillduwyr, ac hefyd yn creu rhagfarn yn meddyliau y boneddwyr yn eu herbyn. Dywedent fod yr Ymneillduwyr yn erbyn y llywodraeth a'r bendefigaeth, ac awgryment fod y cynlluniau mwyaf bradwrus, a'r pechodau mwyaf ysgeler yn cael eu cyflawni yn eu cyfarfodydd neillduol. Nid ydyw yr arferiad cableddus a rhagfarnllyd hwn, ysywaeth, wedi llwyr adael ein gwlad hyd heddyw. Nodwn un engraifft a gyhoeddir yn "Methodistiaeth Cymru," yr hon a ddengys mor niweidiol oedd dylanwad y cyfryw chwedlau disail ar feddyliau boneddwyr ein gwlad:-"Pan oedd Cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ar gael ei chynal yn Beaumaris, yr ydym yn cael fod yr hen Lord Bulkeley, Baron-hill, ger llaw y dref, mewn pryder mawr o'r achos; ac ar ddyfodiad goruchwyliwr iddo o'r enw Mr. Richard Jones, Trewyn, i'w wydd ryw ddiwrnod cyn y cyfarfod disgwyliedig, ymddangosai y pendefig yn dra chyffrous, a chyfarchodd Mr. Jones ef fel arferol—"Pa fodd yr ydych fy Arglwydd?" "Yr ydwyf yn dra digalon," ebe yntau, "o herwydd fod y penau-gryniaid yn myned i gadw cyfarfod yn Beaumaris, a'u harfer ydyw cynal y cyfryw gyfarfodydd i gynllunio rhyw ddrygau, megys codi terfysgoedd yn y wlad, ac ymosod ar y llywodraeth, ac nid oes un math o sicrwydd na fydd Baron-hill ar dân cyn yfory." "Na, fy Arglwydd," ebe Mr. Jones, "ni wna y bobl hyn ddrwg yn y byd, y bobl oreu yn y byd ydynt, y mae y cyfarfod yn llawer mwy diberygl na phe buasai ball yn cael ei chynal yn y dref." "Nid felly ychwaith," ebe yr hen bendefig, "pobl yr Eglwys ydyw y bobl oreu." "Ie," ebe Mr Jones, "ond y mae y bobl yma yn bur debyg i'r Eglwys, ac yn bur barchus o'i herthyglau a'i gweddiau, er y byddant weithiau yn dywedyd yn llym yn erbyn rhyw fath o weinidogion anheilwng sydd ynddi, y rhai sydd yn taenu chwedlau disail a chas am danynt. Goeliwch fi, fy Arglwydd, ni ddaw drwg yn y byd oddi wrth y cyfarfod." Cafodd yr hen Lord Bulkeley, weled mai gwir a ddywedai ei oruchwyliwr wrtho, ac mai disail a fuasai ei ofnau, ac anheilwng o gred oedd y chwedlau a fynegasid iddo; ar ol hyn fe fu y pendefig clodwiw hwn yn serchog tuag at grefyddwyr tra y bu fyw." Gan mai yr achos Annibynol oedd y cyntaf a sefydlwyd yma, profodd yn ei gychwyniad, ac am flyneddau wedi hyny, holl lymder y ffuri rag-grybwylledig o erledigaeth.

Dechreuwyd pregethu gyda'r Annibynwyr yn y dref hon gan y Parch. Benjamin Jones, yr hwn oedd yn gweinidogaethu y pryd