Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw yn Rhosymeirch. Daeth Mr. Jones yma trwy wahoddiad y rhagddywededig Mr. John Parry, bragwr, yr hwn a fu yn noddwr caredig i'r achos dros lawer o flyneddau. Arferai Mr. Jones bregethu yr amserau cyntaf y daeth yma ar yr heol, yn ymyl y White Lion, gyferbyn a'r hen garchardy. Dywedir iddo ddewis y lle hwn mewn cydsyniad â dymuniad amryw o'r carcharorion, y rhai a ganiateid i fyned i'r ffenestri i wrandaw arno. Yn mhen ysbaid ar ol hyn, ymgyfarfyddai yr ychydig dysgyblion yn rheolaidd mewn tŷ anedd bychan o'r enw Tanyrardd, yr hwn a safai y pryd hwnw yn nghwr uchaf Wrexham St.; ond a dynwyd i lawr yn fuan ar ol symudiad yr achos oddi yno. Yn y lle hwn y corfforwyd yr eglwys gan y Parch. Benjamin Jones, Chwefror 27, 1785. Yr aelodau a dderbyniwyd yn y cymundeb cyntaf oeddynt John Parry, bragwr, Richard Williams, Owen Jones, William Parry, William Owen, labourer; Hugh Jones, David Davies, a William Jones, gwehydd. Yn yr ail gymundeb, derbyniwyd John Roberts a'i wraig, Elizabeth Parry, a David Owen, Aeth y tŷ yn fuan yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa, a symudwyd i ystafell mwy eang a chyfleus, yn agos i'r man y saif yr addoldy presenol; math o "lofft allan" ydoedd, a grisiau i 'fyned iddi o'r heol. Gosodwyd meinciau ac areithfa ynddi, a buwyd yn addoli yn y lle hwn am tua thair blynedd. Deuai y Parch. Benjamin Jones a'i gynorthwywr Mr. William Jones, yma yn rheolaidd ar y Sabbath i bregethu, a chynyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa i raddau dymunol iawn. Cyfarfu yr achos a llawer o wrthwynebiadau yr adeg hon. Anfonai y terfysgwyr rai gweithiau, ddynion meddwon i blith y gynulleidfa i geisio aflonyddu yr addoliad. Brydiau eraill, deuai perthynasau digrefydd y rhai a fynychent y lle i'w cyfarfod ar eu dyfodiad o'r addoliad, i'r dyben o'u difrio yn gyhoeddus. Coffeir hyd heddyw am ambell i wraig wir grefyddol a ammherchid yn fawr gan ei gwr anhywaeth, am ddilyn crefydd yr adeg hon. Er hyn oll, yr oedd arwyddion amlwg fod yr Arglwydd mewn modd neillduol yn bendithio llafur ei weision, ac anogai y gweinidogion a ymwelent â'r lle y cyfeillion i adeiladu addoldy teilwng o'r achos, ac o'r enwad yn y dref. Gan nad oedd tir i'w gael am unrhyw bris i adeiladu addoldy Ymneillduol arno, tueddwyd Mr. John Parry i brynu rhes o dai bychain, heb yngan gair ar y pryd wrth eu perchenog mewn perthynas i'r hyn a fwriadai wneyd a hwynt. Cyn hir, chwalwyd un o'r tai, a dechreuwyd adeiladu y capel yn ei le, yr hwn a orphenwyd yn y flwydd-