Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 1788. Mor gynted ac y daeth bwriad y cyfeillion i adeiladu yr addoldy yn hysbys, gwnaeth gelynion crefydd eu goreu i geisio atal y gwaith i fyned yn mlaen. Yr oedd boneddwr yn byw ar y pryd mewn tŷ yn ymyl, gardd pa un oedd yn terfynu ar y tir a brynwyd gan Mr. Parry, bygythiai hwn yn ddychrynllyd, a dywedai yr adeiladai efe dŷ i'w gŵn ar dalcen y capel os adeiledid ef. Hefyd, camddarluniwyd yr amcan yn mhresenoldeb y diweddar Lord Bulkeley, yr hwn a anfonodd am Mr. Parry i ymddangos o'i flaen. Dywedodd ei Arglwyddiaeth, "Yr ydwyf wedi clywed John Parry eich bod yn adeiladu tŷ drwg iawn, gyda'r bwriad o gynal cyfarfodydd dirgelaidd o natur amheus ynddo, ac y mae yn debyg o fod yn nuisance i fy nhenantiaid yn y gymydogaeth." Atebodd Mr. Parry, "Mai tŷ i addoli Duw ydoedd, ac nad oedd yn mwriad neb i'w ddefnyddio i un amcan arall." Pa fodd bynag, llwyddodd Mr. Parry i dawelu meddwl yr hen bendefig, yr hwn a ddymunodd iddo cyn ymadael bob llwyddiant gyda'r gwaith.

Rhoddwyd gwahoddiad gan yr eglwys a'r gynulleidfa i un Evan Jones, gŵr o'r Deheudir i ddyfod i weinidogaethu iddynt. Gellir barnu i Mr. Jones fod yma am beth amser yn pregethu, ond cydsyniodd drachefn â chais y cyfeillion crefyddol yn Amlwch, ac ymsefydlodd yn eu plith. Ei olynydd ef oedd y Parch. John Jones, mab y diweddar Barch. Jonathan Jones, Rhydybont, sir Gaerfyrddin. Wedi hyny bu y Parch. William Jones yma dros ychydig amser, a symudodd i Drawsfynydd, swydd Feirion, lle y treuliodd dymor lled faith yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Ar ei ol ef, daeth y Parch. Thomas Jones, yr hwn a gadwai ysgol ddyddiol mewn cysylltiad â'r weinidogaeth; bu yma am tua 7 mlynedd. Yn y flwyddyn 1809, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. John Evans, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yma dros ysbaid 32 o flyneddau. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans yr adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd traul yr adeiladaeth yn £450, a thalwyd y cyfan yn mhen ychydig flyneddau trwy gyfraniadau cartrefol a chasgliadau o leoedd eraill. Bu Mr. Evans yn hynod ymroddgar gyda'r gorchwyl o ddileu y ddyled, a llafuriodd yn egniol yn ngwyneb llawer o rwystrau dros y tymor hirfaith a nodwyd. Ar ol rhoddi y weinidogaeth sefydlog i fynu, parhaodd i bregethu yn achlysurol hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 28, 1862, yn 83 mlwydd oed. Bu yn y weinidogaeth dros y tymor maith o 60 mlynedd, Yma yr ordeiniwyd