Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Parch. John Griffith, yn awr o Buckley, i fod yn gydlafurwr â Mr. Evans, yr hwn a olygai y pryd hwnw dros yr achos yn Mhentraeth a Phenmynydd mewn cysylltiad â Beaumaris. Yn Awst 1844, dechreuodd y Parch. William Thomas, y gweinidog presenol ar ei weinidogaeth yn y dref hon. Cynyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn fuan o dan ei weinidogaeth, a chyfranwyd bywyd adnewyddol i'r achos yn ei wahanol ranau. Profwyd rhai tymorau ireiddiol ac adfywiol yn yr eglwys. Derbyniodd Mr. Thomas nifer luosog i'r eglwys yn ystod y 18 mlynedd diweddaf; y mae llawer o honynt yn aros hyd y dydd hwn, eraill wedi cael eu symud gan angau, rhai wedi gwrthgilio, ac amryw wedi ymadael i ardaloedd eraill i ddilyn eu galwedigaethau. Derbyniodd yr eglwys raddau helaeth o ddylanwad daionus yr adfywiad diweddaf a ymwelodd a'r wlad, ac er fod rhai wedi troi yn anffyddlon, y mae eraill yn "dal eu ffordd, ac yn chwanegu cryfder." Nifer aelodau yr eglwys yn bresenol yw 150, ac y mae bywiogrwydd, heddwch, a gweithgarwch yn ffynu yn eu plith. Y mae yr Ysgol Sabbathol yn bur flodeuog, ac yn parhau i gyfranu yn haelionus at wahanol achosion; y mae ei deiliaid yn rhifo tua 150. Rhifedi y gynulleidfa ar nos Sabbath yw 250. Ychydig flyneddau yn ol gwnaed adgyweiriad trwyadl ar yr addoldy, ac o herwydd fod y gynulleidfa yn parhau i gynyddu, gwnaed amryw o eisteddleoedd newyddion ynddo; bu y draul yn agos i £80. Hefyd, treuliwyd £33 yn ddiweddar ar amryw welliantau oeddynt yn angenrheidiol, sef, paentio, lliwio, cael nwy (gas) i'r addoldy, &c.

Heblaw y ffyddloniaid a enwyd yn barod, fel yr aelodau cyntaf a berthynent i'r eglwys hon, bu yma amryw eraill ag y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn. Megis, Hugh George (yr hwn a gyflawnai swydd diacon am dymmor hir) a'i briod, John George a'i briod, Richard Evans a'i briod, Margaret Parry, yr hon a letyar y pregethwyr am flyneddau; Mary Pritchard, Llandegfan, yr hon a fu farw y 107 mlwydd oed, ar ol proffesu crefydd am yu agos i 60 mlynedd; Mary Williams, Rhos-isaf, Llaniestyn; William Jones, (yr hwn oedd yn ddiacon gofalus) a'i briod; John Lewis, yr hwn oedd hefyd y ddiacon ffyddlon a chywir; Catherine Tyrer, a Catherine Williams, Wrexham St., y rhai fuont ffyddlon hyd angau; Owen Jones a'i briod; Elizabeth Jones, Pendre'; Mary Jones, priod Peter Jones, yr hwn oedd hefyd yn aelod. Anne Edwards, Brynteg, Llandegfan. Mrs. Catherine Evans, (priod y diweddar Barch. J.