Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceirchiog; a R. Roberts, Treban. Yn yr adeg hon, daeth hên chwaer grefyddol o'r enw Jane Owen, (alias Siân Owen Edward) yr hon oedd yn aelod yn Amlwch, i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi. Bu Mr. Owen Thomas a Sian Edward yn cadw cyfarfodydd gweddi yn fynych, cyn bod yma neb arall a gymerai ran gyhoeddus yn y gwaith. Darllenai Mr. Thomas ran o'r Ysgrythyr, a rhoddai benill allan i'w ganu, yna dywedai yn ei ddull syml, "Sian dos dipyn i weddi," ac wedi cael gweddi afaelgar a gwresog gan yr hen chwaer, â yntau drachefn "yn hyderus at orseddfainc y gras." Profasant lawer gwaith gyflawniad o'r addewid hono, "lle mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." Yn mhen amser, gwelodd yr Arglwydd yn dda i fendithio yr ardal ag adfywiad crefyddol grymus iawn, a daeth llawer i ymofyn am le yn ei Dŷ. Yn eu plith coffeir am Richard Jones (mab yr un a grybwyllwyd yn barod); Thomas Williams, Tyddyn-du, a'i briod; Lewis Jones, Broc'nol; ynghyd ag eraill a fuont yn ffyddlon gyda'r achos. Parhaodd yr eglwys a'r gynulleidfa i gynyddu yn raddol hyd yn bresenol, er na theimlwyd rhyw lawer o weithrediadau anghyffredin yr Ysbryd y blyneddau diweddaf. Nifer yr aelodau ydyw 50, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa 100. Bu yr eglwys hon ar wahanol adegau o dan ofal gweinidogaethol y Parchn, Owen Thomas, Thomas Owen, David Roberts, yn awr o Gaernarvon; a John Jones, yr hwn sydd yn bresenol yn Maentwrog. Adeiladwyd addoldy newydd yma y flwyddyn hon (1862) gan y Meistri Lewis o Lynlleifiad. Mae y gwyr ieuanc canmoladwy hyn yn enedigol o'r ardal hon, ac yn dystion o wirionedd yr ymadrodd ysprydoledig "Ilaw y diwyd a gyfoethoga." Y maent hwythau o serch at eu hardal enedigol, ac o gariad at achos yr hwn sydd wedi eu llwyddo, wedi gwneyd anrheg o'r addoldy hardd a drudfawr hwn i'r enwad yn Llanfechell. Y draul yn £700. Bydd yn addoldy coffawdwriaethol i'r oesau dyfodol, o haelioni, a rhyddfrydedd y brodyr teilwng hyn. Mae yma gladdfa helaeth yn perthyn i'r addoldy, at wasanaeth yr ardal.

EBENEZER.

PENTRAETH.

MEWN tŷ anedd o'r enw Ty'nylôn, Cefn-hir, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon. Yn mhen rhyw