Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymaint o amser, agorodd drysau eraill yn yr ardal, sef, Penylon, a Thycroes, lle y pregethid yn achlysurol, ond y prif le oedd Ty'nylon. Prif noddwyr yr achos y pryd hwnw, oeddynt John Roberts, Ty'nylôn; William Rowland, Bodwgan; James Pritchard, Tycroes; Robert Jones, Melin Pentraeth; a Thomas Hughes, Pen y lôn. Dywedir i'r blaenaf a enwyd, ddwyn holl dreuliau yr achos nes y daeth y personau eraill yn mlaen i'w gynorthwyo. Ychydig oedd y treuliau mae yn wir, ond yr oedd yr ychydig hyny yn llawer i ddyn tlawd i'w gyflawni. Yr oedd yr olaf a enwyd yn arddwr yn ngwasanaeth boneddwr yn y gymydogaeth; daeth ei feistr ato un dydd Sadwrn, ac a ddywedodd, Thomas, y mae arnaf eisiau i chwi fyned ar neges i mi yfory; "atebodd yntau, "Yr ydwyf yn ewyllysgar Syr, i wneyd pob peth a allaf i'ch boddloni, ond nis meiddiaf dori y Sabbath." Oherwydd ei onestrwydd a'i gywirdeb, daeth Thomas yn fwy parchus yn ngolwg ei feistr, ac ni cheisiwyd ganddo wneyd dim gwaith ar y Sabbath mwyach, Yr oedd yma hefyd rai chwiorydd gwir ymroddgar gyd a'r achos yn ei gychwyniad, sef, Catherine Parry, Clai; Ellen Jones, Tanygraig; Ellen Jones, Lôn-lwyd; ac Ellen Jones, Ty'nyllan. Cyn hir, symudwyd yr Arch o dŷ John Roberts, i dŷ gwag a gymerwyd i'r perwyl yn y Llan, Pentraeth. Nid oedd y lle hwn yn ol tystiolaeth y rhai sydd yn ei gofio, yn un o'r lleoedd mwyaf cysurus i addoli ynddo. Tŷ a thô gwellt iddo ydoedd, a llawr y pwlpud o bridd, ac ystyllen wedi ei gosod ar ei draws i ddal y Beibl, a'r gwlaw yn disgyn yn rhwydd drwy y tô, ar dywydd gwlyb. Yr oedd yr achos yn y tŷ hwn, yn benaf, o dan ofal y Parch. D. Evans, Bangor, a'r Parch. W. Jones, Beaumaris. Deuai eraill yma i bregethu yn achlysurol. Dywedir iddynt gael cyfarfodydd gwresog a llwyddianus iawn yn yr hen dŷ, a'r canlyniad fu i'r gynulleidfa gynyddu, nes eu gosod dan yr angenrheidrwydd i helaethu lle y babell. Prynwyd darn o dir i'r perwyl gan Mr. Owen Jones, Hensiop, am £40; ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1803. Adeilad pur gyffredin ydoedd hon drachefn; yr holl ddodrefn a gynwysai oedd pwlpud ac ychydig o feinciau. Yn ystod gweinidogaeth y Parch. John Evans, Beaumaris yma, gwnaed eisteddleoedd ac oriel yn yr addoldy, yr hyn oedd yn welliant mawr. Ail adeiladwyd, ac helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1856,-y draul yn agos i £300; er fod y gost yn fawr ac ystyried amgylchiadau y lle, llwyddwyd trwy gyd