Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurus Ebrill 12, 1838, yn 66 mlwydd oed. Yn mhen un mis ar bymtheg ar ol Mr. Roberts, bu farw ei anwyl briod, Mrs. Jane Roberts, yn 66 mlwydd oed, wedi treulio ei hoes, o'r bron, yn ddiwyd a ffyddlon yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Yn mhen ychydig flyneddau ar eu holau, bu farw John Hughes hefyd, un o hen ddiaconiaid yr eglwys, yn 66 mlwydd oed, wedi bod am 40 mlynedd yn ngwasanaeth y diweddar Mr. a Mrs. Roberts,-"Cariadus fuont yn eu bywyd, ac yn angau ni wahanwyd hwynt." Am y tair blynedd olaf o oes Mr. Roberts, bu y Parch. Richard Parry, yn awr o Landudno, yn cydlafurio ag ef gyda chymeradwyaeth mawr, a phob peth yn ymddangos yn siriol a llewyrchus o dan ei ofal ef; ond symudodd Mr. Parry i Gonwy, a hyny yn groes iawn i feddwl a theimlad y cyfeillion yn gyffredin. Wedi hyny, daeth y Parch. William Davies, o Nefyn, yma, ac arhosodd am oddeutu 5 mlynedd. Yn ei amser ef yr ailadeiladwyd y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, bu un John Morris yma am ychydig amser. Ar yr ail Sabbath o Fai, 1850, dechreuodd y Parch. William Morris, y gweinidog presenol, ar ei weinidogaeth yma. Y mae dyfodiad Mr. Morris i'r lle hwn wedi bod yn fendithiol i'r eglwys a'r gymydogaeth. Codwyd yma dri o bregethwyr, sef, Mr. Richard Jones, yr hwn a aeth oddi yma i Goleg Blackburn, ond beth a ddaeth o hono wedi hyny sydd yn anhysbys i'r ysgrifenydd; y Parch. Robert Parry, diweddar o Newmarket, swydd Fflint; a Mr. Robert Roberts, mab ieuengaf y diweddar Barch, Robert Roberts, yr hwn y mae ei glod gartref, ac hefyd yn holl eglwysi y sir, fel Cristion cyson, a phregethwr defnyddiol; mewn undeb a'i frawd Mr. William Roberts, caflawnai swydd diacon yn yr eglwys. Rhifedi yr eglwys yn bresenol ydyw 120, yr Ysgol Sabbathol 160, y gynulleidfa 260. Profwyd gwahanol dymorau gyda chrefydd yn yr eglwys hon,

"Weithiau yn y tywyll gymoedd,
Weithiau ar ben y mynydd glas."

O ddeuddeg i bymtheg mlynedd yn ol, goddefodd ei Phen mawr i ruthr lled arw ymosod arni. Ond o diriondeb trugaredd ein Duw cadwyd hi yn fyw yn y nos. Ni ddifethwyd mo honi, er ei bod ar y pryd fel y "berth yn llosgi." Gwelwyd hefyd dymorau hafaidd a llwyddianus iawn ar yr achos yma. Anrhydeddwyd yr eglwys a chyfranogiad lled helaeth o ddau adfywiad a fu yn y wlad, sef yn 1839-40, ac yn 1859–60. Ychwanegwyd yn nghylch 60 at yr eglwys y tro diweddaf, ac er fod aml un fel Orpah wedi troi yn ol, eto, y mae