Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mwyafrif o lawer yn aros hyd y dydd hwn; gan gyrchu at y nôd, fel yr hyderwn, trwy nerth egwyddor, pan y mae tymor yr hwyliau a'r cyffroadau nwydol wedi darfod.

BETHEL,

CEMMAES.

DECHREUWYD cynal cyfarfodydd crefyddol gan yr Annibynwyr yn Mhenrhyn, Cemmaes, tua'r flwyddyn 1806. Cymerwyd tŷ anedd yn y lle i'r perwyl, gan Mr. Owen Thomas, Carrog, yr hwn a fu yn ymdrechgar iawn ar y pryd, yn ngwyneb llawer o anfanteision. Deuai rhai o'r brodyr crefyddol o Lanfechell, yn achlysurol, i'w gynorthwyo, ond gan fod yr achos yno yn dal yn lled wan, nid rhyw lawer o gymhorth a allasent estyn iddo. Dywedwyd wrth Mr. Thomas yr adeg hon, fod dyn defnyddiol o'r enw William Jones, yr hwn a berthynai i eglwys Rhosymeirch, yn chwilio am le cysurus i fyw; aeth yntau yn ebrwydd i ymofyn am dano, a chytunwyd iddo gael byw ar dir Carrog; o hyny allan, bu y brawd ffyddlon hwn yn gymhorth mawr i gynal cyfarfodydd crefyddol yn y Penrhyn, ac y mae amryw yn yr ardal eto, yn gallu cofio y cyfarfodydd gwlithog a gaed yno. Anaml y byddai yr un pregethwr yn ymweled â'r lle; ond un tro cafwyd cyhoeddiad "gwr dyeithr" i fod yn y Penrhyn un nos Sabbath. Ni ddaeth at ei gyhoeddiad. Wedi hir ddisgwyl yn ofer am dano, gofynwyd i Mr. Owen Thomas ddyweyd ychydig mewn ffordd o bregeth; nid oedd wedi dech reu pregethu y pryd hyn, ond ufuddhaodd yn galonog i'r cais, a chymerodd y rhan hono o'r gair yn destyn-"Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tân, a mi a leferais â'm tafod," Salm xxxix. 3. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1807, ac ar ol hyny arferai Mr. Thomas bregethu yn fynych yn Llanfechell, ac yn y Penrhyn, ac mewn manau eraill. Yn y flwyddyn 1814, ordeiriwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Ebenezer, Llanfechell. Y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith y cyfarfod oeddynt y Parchn. J. Griffith, Caernarfon; G. Lewis, Llanuwchllyn; J. Evans, Amlwch; ac R. Roberts, Treban. Yn fuan ar ol hyn, daeth ei ddau fab yn aelodau crefyddol, sef Thomas Owen, ac Owen Thomas. Arhosodd Thomas Owen yn Ebenezer, ac aeth Owen Thomas i'r Penrhyn. Yn yr adeg hon, daeth hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghemaes yn wag, a symudodd y gynull-