Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyfyriwr hoff, y Parch. Caleb Morris, yr hwn oedd gyda mi ar y pryd, y buasai yn dda genyf ei gael yn ol; ond yr oedd hyny yn anmhosibl, "yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd." Pan ddaethum yma, 6 o frodyr, a 7 o chwiorydd oedd yn gwneyd i fynu yr holl eglwys; y gwrandawyr yn nghylch 40. Enwau yr aelodau ydoedd, Robert Jones, Thomas Williams, William Parry, Rowland Jones, William Williams, John Davies, Margaret Jones, Catherine Jones, Jane Evans, Margaret Parry, Elizabeth Roberts, Mary Lloyd, a Margaret Griffith. Rhyfyg a fuasai iddynt addaw fy nghynal, ac o herwydd hyny agorais ysgol. Cefais nawdd y gymydogaeth a'r wlad, ac yn fuan ysgrifenodd y Dr. Abraham Rees, o Lundain ataf, i'm hysbysu fod ysgol y Dr. Daniel Williams i gael ei symud o'r man lle yr oedd. Gan fy mod o Goleg Caerfyrddin, a'r Dr. yn hen gyfaill i fy nhad, dywedai y carai fy nghefnogi trwy osod yr ysgol o dan fy ngofal. Bu hyny yn grya fantais i'r achos gwan, ac i minau. Pe gallaswn fyw heb yr ysgol, credwyf mai gwell ar y pryd oedd i mi ei chadw; yr oedd yn fy nwyn i gydnabyddiaeth, ac yn rhoddi i mi beth dylanwad er daioni ar y plant a'u rhieni. Urddwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth Medi 25ain a'r 26ain, yn y flwyddyn 1822. Gan nad oedd genym gapel eto o'r eiddom ein hunain, cynaliwyd y cyfarfod yn addoldy y Bedyddwyr. Nos Fercher, dechreuodd y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y Parch. W. Cooper, Dublin, oddi ar Ioan i. 29; a'r Parch. D. Jones, Treffynon, yn Gymraeg, oddi ar 1 Tim. i. 15. Boreu dydd lau, am haner awr wedi 6, dechreuodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd y Parch. T. Lewis, Pwllheli, oddi ar Ioan v. 25. Am 9, dechreuodd y Parch. J. Rees, Manchester, a thraddodwyd y gynaraeth gan y Parch. W. Jones, Caernarfon, oddi ar 1 Cor. i. 2; gofynwyd yr holiadau gan y Parch, R. Roberts, Treban; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. D. Jones, Treffynon, gydag arddodiad dwylaw; a phregethodd y Parch, W. Cooper, ar ddyledswydd y gweinidog, oddi ar 1 Tim. iv. 12—16; a'r Parch. D. Roberts, Bangor, ar ddyledswydd yr eglwys, oddi ar 1 Thess. ii. 20. Am 2, dechreuodd y Parch. Owen Thomas, Llanfechell, a phregethodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, oddi ar Heb. xii. 4; a'r Parch. J. Breese, Llynlleifiad, oddi ar Can. vi. 9. Am 6, dechreuodd y Parch. J. Evans, Beaumaris, a phregethodd y Parch W. Cooper, oddi ar Salm lxxxix. 15; a'r Parch, Daniel Griffith (wedi hyny o Gastellnedd) oddi ar Ezec. xxxvii. 9. Y nos ganlynol, pregethodd y Parch, J. Rees, Man-