Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chester, a'r Parch, J, Griffith, Beaumaris, yn awr o Buckley, oddi ar Dat. xiv, 10, 11; a Iago i, 5, Pregethais inau y Sabbath canlynol oddi ar Eph, iii, 8,

Yr oedd yn beth anfantais y blyneddau cyntaf, fy mod y gweinidog sefydlog cyntaf erioed yn y dref; er fod yr enwadau eraill wedi hir ymsefydlu yma, byddent yn cael eu gwasanaethu gan amrywiaeth doniau o'r wlad bob Sabbath. Felly hefyd y gwasanaethid cynulleidfa "y parlyrau" am y 5 mlynedd cyntaf, a lletyai y brodyr yn fynych yn Crecristfawr gyda Mr. Griffith Roberts, ewyllysiwr da i'r achos y pryd hyny, ac aelod diwyd wedi hyny hyd derfyn ei oes, er fod ganddo dair milltir o ffordd i ddyfod atom. Da genym gael cyfleustra i groniclo ei enw teilwng; y mae rhai o'i hiliogaeth yn dilyn ei siampl yn Llynlleifiad, a Bryngwran, Môn. Trefn y gwasanaeth Sabbathol o 1822, hyd 1831, ydoedd cyfarfod gweddi am 7, oedfa Gymraeg am 10, ysgol am 2, ac oedfa Saesonaeg am 6. Gan fod y Llan y pryd hyny yn gauad y nos, byddai y Saeson elai yno y prydnawn, bron i gyd yn dyfod atom ninau yn yr hwyr. Gwelwyd fod hyn yn niweidio yr achos Cymraeg, ac o herwydd hyny peidiwyd â'r Saesonaeg; profodd y canlyniadau yn fuan mai iawn y gwnaethom. Ein gorchwyl mawr nesaf oedd adeiladu; cafwyd y safle mwyaf dewisol Maintioli y capel oedd 45 o droedfeddi wrth 39, ac oriel o'i amgylch yr oedd traul yr adeiladaeth yn £800. Yr adeiladydd oedd y rhagddywededig Mr. Owen Lewis, yn awr o Langefni. Yr oedd yr anturiaeth yn fawr, ond safodd y cyfeillion, Mr. Roberts, Treban; Mr. Ellis, Marchog; a Mr. Roberts, Tynygroes, o dan bwys y ddyled gyda mi. Y mae parch yn ddyledus i'w henwau teilwng oddi wrth aelodau y Tabernacle, o oes i oes. Pregethwyd ynddo gyntaf ar foreu Sabbath, Chwefror 22, 1824; y testyn y boreu hwnw oedd Neh. x. 39. Yn y flwyddyn 1845, helaethwyd y capel trwy ychwanegu vestry helaeth ato, ac ail-drefnu y llawr. Helaethwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1856, trwy estyn saith llath at ei hyd, fel y cynwysai rhwng dau a thri chant yn fwy nag o'r blaen; costiodd yr helaethiad hwn £650, heb law £100 am y tir oedd o'r blaen yn edringol, ond yn awr sydd yn feddiant tragwyddol. Y mae yr Ysgol Sabbathol wedi gweithio yn orchestol i ddileu y ddyled, a disgwylir y bydd eleni (1862) wedi gorphen y gwaith. Y mae yma ysgoldy a thŷ anedd mewn cysylltiad a'r capel. Cynydd graddol a pharhaus sydd wedi bod ar yr achos yma. Cafwyd ychwanegiadau anghyffredin