Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1665, rhoddwyd deddf arall mewn gweithrediad yn erbyn yr Ymneilldwyr, yr hon a elwir yn "Ddeddf y Pum Milltir" (Five Mile Act). Yr oedd y gyfraith hon, yn mhlith pethau eraill, yn rhwymo yr Ymneillduwyr trwy lŵ, na byddai iddynt gynyg am unrhyw gyfnewidiadau yn nhrefniadau yr Eglwys Wladol. Yr oedd pob gweinidog a wrthodai gymeryd y llwon gofynedig gan y gyfraith, i gael ei atal rhag byw yn, na dyfod o fewn pum milltir i unrhyw ddinas, neu fwrdeisdref; nac o fewn pum milltir i unrhyw blwyf, tref, neu le, yn mha un yr oedd wedi bod yn gwasanaethu yn flaenorol fel periglor, ficer, neu ddarlithydd; o dan berygl o gael ei ddirwyo i'r swm o £40. Cynlluniwyd y cyfreithiau ysgeler hyn, ynghyd a'r Test and Corporation Acts, pa rai oeddynt yn anghymwyso Ymneillduwyr cydwybodol i ddal swyddau gwladol o dan y goron, gan yr Esgobion a'u pleidwyr, gyda'r bwriad o geisio llethu Ymneillduaeth. Er hyn oll, myned rhagddo yr oedd y diwygiad er pob moddion a arferid i'w wrthsefyll. Yr oedd Ymneillduwyr yr oes hono yn debyg i'r Hebreaid gynt yn yr Aipht, "fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent." Parhaodd yn gyfyng iawn ar bobl yr Arglwydd yn ystod gweddill teyrnasiad Siarl, ar eiddo Iago II ar ei ol ef, hyd y Chwyldroad, pryd y rhoddodd y Goddefiad brenin rhyddfrydig William III ei sel wrth ddeddf y (Toleration Act), yn y flwyddyn 1689. Bu i'r cyhoeddiad o'r gyfraith hon, gynyrchu bywyd adnewyddol yn y miloedd Ymneillduwyr oeddynt yn barod bron a diffygio. Daeth y weinidogaeth deithiol i fri, ac ymroddodd lluaws o ddynion ieuanc cymeradwy i waith y weinidogaeth. Adeiladwyd amryw o addoldai newyddion ar hyd siroedd Cymru, a chofrestrwyd llaweroedd o dai i gynal cyfarfodydd crefyddol ynddynt. Gwelodd yr Arglwydd yn dda yn y cyfnod hwn, i fendithio ymdrechiadau ei weision ffyddlon mewn modd hynod Dynoethwyd ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. "Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, a dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn."

O dan nawdd y gyfraith rag-grybwylledig, y daeth y cenhadau Ymneillduol cyntaf i ynys Mon i bregethu yr efengyl, Er mai y sir hon oedd yr olaf o siroedd Cymru i dderbyn egwyddorion Ymneillduaeth, eto, gellir dwe'yd am dani na bu yn ol i ardaloedd eraill yn y llwyddiant buan a chyffredinol a ddilynodd gweinidogaeth effeithiol ein hynafiaid. Gellir barnu na ddarfu i drigolion Môn