Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyoddef nemawr o galedi o herwydd y cyfreithiau gorthrymus â enwyd, oblegid y mae yn amheus genym a oedd cymaint ag un Ymneillduwr proffesedig i'w gael yn yr holl Ynys, yr amserau helbulus hyny. Ymddengys mai Breiniolwyr (Royalists) brwdfrydig oedd y cyffredinolrwydd o dir-feddianwyr a gwyr Eglwysig Môn yn y blynyddau cythryblus a ragflaenodd y "Chwyldroad," pryd yr agorwyd drws y ffydd" i efengylu yn mhlith y Monwysiaid "anchwiliadwy olud Crist." Y cyffelyb ysbryd a ddangoswyd gan y dosbeirth hyn ar adegau diweddarach, yn enwedig, pan yn cynhyrfu yr erledigaethau crculawn a ddigwyddasant yn amser Lewis Rees, Jenkyn Morgan, William Pritchard—tadau Ymneillduaeth yn y wlad hon. Yr oedd Mon cyn dyfodiad y cenhadau Ymneillduol cyntaf iddi mewn sefyllfa isel a thruenus iawn o ran moesau a chrefydd. Y trigolion yn gyffredin mewn cyflwr o anwybodaeth dygn, eu meddyliau yn ymddifyru mewn gwag ofergoelion, eu cydwybodau yn wasaidd a dideimlad, a'u calonau yn orlawn o elyniaeth mileinig yn erbyn pob "pengrwn" a "Cradoc" a gyfarfyddant. Cymerai y lluaws eu harwain gan eu chwantau anianol, yn dilyn gwagedd, ac yn rhodio yn ol oferedd eu meddyliau. Gyda phriodoldeb neillduol y gallesid galw yr ynys hon yn yr adeg hono, fel ei gelwid gynt-"Yr ynys dywell." Ychydig o lyfrau oedd yn argraffedig yn yr iaith Gymraeg, yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd y mwyafrif o lawer o'r trigolion heb fedru darllen. Yr oedd moddion addysg yn brin yn y wlad. Dywedir fod llaweroedd o benau teuluoedd cyfoethog, a rhai mewn swyddau pwysig, yn hynod o ddiofal am roddi addysg i'w plant. Yr oedd y merched yn gyffredin yn cael eu hamddifadu yn fawr o foddion addysg. Coffeir am rai boneddigesau o fri yn yr oes hono, yn analluog i ddarllen. Ymddengys fod yr hyn a ddywedai yr hybarch Ficar o Lanymddyfri am foneddigesau anllythrenog yn ei oes ef, yn wir ddesgrifiadol o'r un dosbarth yn Mon yr adeg dan sylw. Dywedai:

"Pob merch tincer gyda'r Saeson, fedr ddarllen llyfrau mawrion,
 Ni ŵyr merched llawer Scwier, gyda ninau ddarllen Pader."

Wrth ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythrenog, ac yn dra anwybodus, y mae yn naturiol meddwl fod ymarferiadau y trigolion yn halogedig a phechadurus iawn. Treulid y Sabathau yn gyffredin mewn chwareuaethau ffol ac anfuddiol. Ymgasglai rhai i ryw lanerch deg, lle y byddai canu a dawnsio, ynghyd ag amryw arferion llygredig eraill yn cael eu cyflawni. Eraill a ymgyfarfyddant i chwareu