er na chai ddim rhagor amdano na'r rhai oedd yn rhoi un owns ar bymtheg ynddo.
Ar ôl nyddu yr oedd eisiau cordeddu, sef gwneud edau ddwygorn neu dair cainc o edau ungorn. Gwneid hynny yn yr un dull â nyddu; bechid dwy neu dair cainc wrth y werthyd, a gadewid y ddau neu dri chobyn ar lawr mewn basged yn ymyl.
Os byddai'r edau i gael ei llifo yr oedd yn rhaid ei gwneud yn genglau. Ni ellid ei llifo yn y cobyn am ei fod yn dynn a chaled; nid âi y lliw i mewn. I wneud cengel yr oedd tyllau yn edyn y droell tua hanner y ffordd o'r both i'r cant, bob yn ail aden, a rhoddid peg ym mhob twll; yna rhwymid pen yr edau wrth un o'r pegiau, ac wrth droi y droell dirwynid ef yn gengel oddi ar y werthyd.
"Da gan y diog yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu ;
Gwell gen innau, dyn a'm helpo,
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio."[1]
Yr oedd llawer o lin yn cael ei dyfu gan ffermwyr yr adeg honno, a defnyddid peth ohono i wneud brethyn dillad—brethyn cartre—ac yn enwedig i wneud brethyn a elwid nerpan, a gwerthid llawer o hwnnw yng Ngwrecsam, Caer, a mannau eraill i wneud dillad milwyr. Trinid y llin yn bur debyg i'r gwlân, ond bod y driniaeth yn fwy garw. Yn lle'r cribau dannedd mân mân, defnyddid darn o fwrdd derw, a gosodid nifer o ddannedd hirion tua naw modfedd o hyd. Gelwid hwynt dannedd yr ellyll. Gafaelid mewn tusw o lin a thynnid ef ôl a blaen trwy'r dannedd hyd nes y deuai yn garth parod i'w nyddu. Yr oedd hen wr o'r enw Edward Morris wedi cadw dannedd yr ellyll a ddefnyddid yng Nghynwyd ac ychydig o'r carth llin a wneid yno tua chan mlynedd yn ôl. Yn anffodus mae'r darn bwrdd wedi braenu. Cafodd cyfaill i mi y dannedd a'r carth. Cefais un o'r dannedd ac ychydig o'r llin ganddo.
Yr oedd y droell lin ychydig yn wahanol i'r droell wlân. Ni welais yr un fy hun. Mae rhannau o un gan yr un cyfaill yng Nghynwyd. Mae darlun o'r un Ysgotaidd yn y Leisure Hour am 1876, a dywaid Charles Ashton mai'r un yw'r cynllun. Llin a nyddid hefyd i wneud edau i'r cryddion a'r sadleriaid. Yr oedd un ohonynt yng ngweithdy'r cryddion yng Nghynwyd drigain
- ↑ Cymru Fu, Lerpwl, 1862. tud 490