Tudalen:Cwm Eithin.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd yn ôl, a gwraig yn arfer dyfod yno am ddyddiau i nyddu.

Yr oedd tŷ'r gwŷdd yn perthyn bron i bob ffarm. Fel rheol eil (lean-to) wedi ei chodi wrth ochr rhyw adeilad a fyddai. Diau fod llawer un a fu'n gwasanaethu gyda ffermwyr hanner can mlynedd yn ôl a gofia glywed ei feistr yn dweud "Cer i dy'r gwŷdd i nôl y rhaw neu'r gaib." Cawsant eu troi yn gytiau arfau a chytiau eraill. Gallai'r gŵr neu un o'r meibion weu gyda'r gwŷdd; ac mewn ffermydd mawr cedwid gwydd, neu, i fod yn iawn, gwehydd, ar hyd y flwyddyn. Byddai'r gwrthbannau, defnydd dillad y meibion a'r merched, yn cael eu gwneud gartre, felly priodol iawn yw'r enw brethyn cartre. Gwerthid y gweddill o wlanen, a brethyn, a brethyn nerpan.