Tudalen:Cwm Eithin.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Diddorol iawn fuasai cael gwybod pa nifer o gampau'r meddwl a arferid yn yr hen wyliau hyn. Dywaid ysgrifennydd yr erthygl uchod y defnyddid llawer ohonynt. Diau fod y bardd a'r telynor yno mewn afiaith.

NOSWAITH LAWEN

Yr oedd y Noswaith Lawen mewn bri mawr yn yr hen amser. Prin oedd moddion adloniant cyn geni'r cyngerdd, a'r ddarlith, a'r cyfarfod cystadleuol. Deuai ambell gwmni yn awr ac eilwaith i chware interliwdiau megis y gwnâi "Twm o'r Nant." Er hynny treuliai ein hynafiaid eu bywyd yn llawen. Nid oedd y Noson Lawen wedi ei llwyr roddi heibio yn fy nghof i.

Cedwid y Noson Lawen pan fyddai rhywun yn ymadael o'r ardal, neu rywun yn dychwelyd ar ôl bod i ffwrdd am amser, ac yn aml heb unrhyw achos neilltuol yn galw, ond er mwyn y difyrrwch diniwed. Gwahoddid telynor o rywle arall, oni byddai un yn y lle y cedwid y Noson Lawen; ond yr oedd y delyn yn gyffredin iawn yn aneddau'r ffermwyr. Cenid gyda'r tannau, cyfansoddid englyn neu ddarn o farddoniaeth am y gorau, adrodd straeon Tylwyth Teg ac am ysbrydion, a thrafod yr hanesion diweddaraf. Fel y canlyn y darlunia "Glasynys," yn "Yr Wyddfa," sef gwaith barddonol O. Wynne Jones, Talysarn [1877], y Noson Lawen:

Hen arfer Hafod Lwyfog
Er dyddiau "Cymru fu,"
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant
Ar hirnos gauaf du :
Un hynod iawn oedd Neina
Am gofio naw neu ddeg
O'r pethau glywodd gan ei nain
Am gampau'r Tylwyth Teg
Wrth gribo gwlan ddechreunos,—
A'i merch yn diwyd wau,—
A'r gŵr yn diwyd wneyd llwy bren
Neu ynte efail gnau :
Ond Teida oedd y goreu
Am hen gofiannau gwlad,
Y rhai a ddysgodd yn y cwm
Wrth gadw praidd ei dad.