Hen batriarch ardderchog oedd Person Llanaled—pur wahanol i'r gŵr a fu yn erlid John Jones, Glanygors. Felly ni chefais i'r fraint o fod yn ferthyr addysg trwy gael fy ngyrru adre fore Llun am beidio â mynd i'r eglwys fore Sul. Heblaw hynny yr oedd yno ysgolfeistr o Gymro twymgalon a llenor gweddol wych. Mae peth o'i waith wedi ei gyhoeddi. Er mai Saesneg a siaradai ef yn yr ysgol, ni chlywais i sôn am y Welsh Not, sef y gosb am siarad Cymraeg. Cadwai wialen fedw anferth, wedi ei phlethu, a wnâi ei gwaith wrth ei dangos. Anaml y byddai'n rhaid iddo ei defnyddio. Nid wyf yn meddwl iddo frifo llawer ar neb â hi. Coffa da sydd amdano. Bu ef a minnau yn gyfeillion cynnes i ddiwedd ei oes faith, ac yn gohebu peth. Credaf nad oes ysgoldy yng Nghymru yn sefyll ar le iachach nag un Llanaled. Saif bron ar uchaf y cwm, Hiraethog un ochr, a'r Brotos a mynyddoedd eraill yr ochr arall. A mynyddoedd Sir Gaernarfon fel rhes o gadfridogion i'w gweled yn y pellter trwy ffenestr yr ysgoldy. Buasai'n gywilydd i unrhyw blentyn beidio â dysgu rhyw gymaint, pa mor ddwl bynnag, yn y fath le.
Pan euthum i'r ysgol, nid oedd yno ond yr ysgolfeistr i ddysgu y dosbarthiadau i gyd, er bod yno gryn nifer o blant o bob oed, yn enwedig yn y gaeaf. Arferai rhai o'r plant mwyaf roddi gwersi i'r rhai lleiaf. Yn fuan ar ôl i mi fyned yno, oherwydd henaint a llesgedd yr hen Ficar parchedig, daeth yno gurad, a deuai ef i'r ysgol yn bur fynych i roddi gwers i rai o'r dosbarthiadau. Mae'n debyg na wnâi fawr ond darllen llithoedd, a cherdded ar hyd y llan ôl a blaen. Byddem ninnau yn gwneud bow iddo pan gyfarfyddem ag ef ar y llan; gwenai yntau yn neis iawn arnom. Paham y byddem yn gwneud bow i'r curad nis gwn; ni fyddem byth yn gwneud bow i'r gweinidog. Cefais aml wers gan y curad mewn darllen a rhifyddiaeth.
Arferai William Jones, Lerpwl, roddi te a bara brith i ni unwaith yn y flwyddyn. Ac un tro cawsom de neilltuol ar ddyfodiad Tywysog Cymru i'w oed. A chwpan i yfed y te a llun y Tywysog arni. Cafodd dyn y mail bach gôt goch, a bu'r gôt goch yn yr ardal yn hir ar ôl i ddyn y mail bach ei throi heibio, yn cael ei phrynu a'i gwerthu gan y naill hogyn i'r llall. Nid oedd treulio arni.
Yn fuan ar ôl i mi adael yr ysgol fe adeiladwyd ysgoldy i'r genethod i fod ar eu pennau eu hunain, a diau i hynny dorri rhyw gymaint ar ramant bywyd ysgol Llanaled. Mae'n ddrwg