gennyf orfod addef mai rhyw do go ddiniwed o ysgolheigion oedd y to yr oeddwn i yn eu mysg. Ychydig o amser o'n blaenau ni yr oedd yno rai a ddaeth yn enwogion-"Taliesin Hiraethog," "Huw Myfyr," "Llew Hiraethog," Huw ac Isaac Jones, Hendre Ddu, Dr. David Roberts ("Dyn y foch aur"), Gwrecsam, y Parch. David Jones, Hugh Evans, Tŷ'n y Gilfach; ac o'r to ar ein holau y cododd "Bardd y Drysau," "Glyn Myfyr," a Thomas Jones, bardd ac awdur gwych. Ond o'n criw ni, yr unig un, hyd y cofiaf, a ddaeth i enwogrwydd oedd "Tawelfryn," awdur cofiant Ieuan Gwynedd," sydd yn aros eto. Ond diolch am yr addysg a gawsom; er mor ddiniwed y troesom allan, mae'n siŵr y buasem yn fwy diniwed fyth hebddi.
Hyd y gwn i, yr oedd chwaraeon plant ysgol Cwm Eithin yn debyg i chwaraeon y dyddiau hyn. Byddem yn chware pêl droed yn y gaeaf, er na chlywais y gair pêl droed na football erioed yn cael ei arfer. Yr oedd gennym ni ein henw clasurol ein hunain ar y bêl, sef "cwd tarw.' Yr arferiad oedd i ddau o'r bechgyn hynaf fod yn arweinwyr-pob un i ddewis ei fyddin. Câi'r cyntaf bigo un a'r nesaf bigo dau, ac yna bob yn ail nes ceid digon. Weithiau cymerent yn eu pennau i roddi tro i'r hen blant bach yn y fyddin, nes y byddai cae'r llyn yn ddu gan blant. Arferem hefyd ddogio cath glap, pitsio, troi'r topyn cwrs, chware marblis-pob chware yn ei dymor neilltuol ei hun. Ond gwell i mi adael llonydd i'r chwaraeon rhag ofn i mi roddi fy nhroed ynddi. Ni fûm yn arwr mewn chwaraeon. Anaml y mentrwn chware marblis o ddifrif, gan mai colli y byddwn, ond yr oedd yno rai, fel finnau, yn fodlon i chware o "fregedd." Byddaf yn meddwl i mi ddechrau fy oes yn y pen chwith, oherwydd yr oeddwn cyn hoffed o gwmni hen bobl pan oeddwn yn hogyn ag wyf o gwmni plant bach yn awr; ac, ar aml ganol dydd pan na fyddwn yn chware, trown am ymgom at hen bobl y 'Sendy a fyddai bob amser yn sefyll â'u pwysau ar y wal pan fyddem yn chware, neu yr hen stonecutter dall oedd yn byw wrth dalcen yr ysgoldy ac yn dyfod allan i eistedd ar y wal isel. Hoff oeddwn o'u gwrando yn myned dros dreialon caled bore'u hoes, a diau i mi dreulio gormod o fore fy oes ymysg hen bobl a chario bywyd yn rhy drwm yr adeg honno, ac y buasai yn well i mi fod wedi chware rhagor.
Mae'n debyg nad ydyw pawb yn blant yr un amser ar eu hoes, y mwyafrif yn ei dechrau, eraill yn ddiweddarach. Byddaf yn credu y caiff ambell un ei eni i'r byd heb fod yn blentyn o gwbl.