PENNOD V
"BYDDIGIONS."
HELYNT YR ARIAN MAWR
NID oedd yno yr un gŵr bonheddig iawn yng Nghwm Eithin—hynny ydyw, un o hen deuluoedd y wlad y gellir olrhain eu hachau yn ôl am genedlaethau; "eiddo y rhai yw y ddaear a'i chyflawnder," trwy hawlfraint yn myned yn ôl i'r oesoedd tywyll. Yr oedd yr unig un oedd yno yn cael gofalu amdano mewn sefydliad yn agos i Lundain. Ond yr oedd yno fyddigions er hynny—rhai a ddeuai i aros yn yr hotels; byddigions yn dyfod yno i saethu. Adwaenem hwy wrth eu golwg—dynion yn gwisgo clôs pen glin a 'sanau tewion, rhesog, wedi troi eu topiau i lawr; dau neu dri o gŵn hyllion yn dilyn yn glos wrth eu sodlau; genwair neu wn o dan eu ceseiliau; yn sefyllian yn nrws y dafarn ar y Sul; byth yn mynd i gapel nac eglwys; wynebau cochion a golwg sarrug arnynt, bron yr un ffurf ag wyneb ci pen tarw. Nid oedd gan y rhain lawer o edmygwyr—ddim ond ychydig a arferai hongian o gwmpas y tafarnau.
Daeth darllawydd o Lerpwl i fyw i'r plas. Yr oedd hwnnw'n ŵr bonheddig iawn cyn belled ag yr oedd haelfrydedd yn myned. Yr oedd y diotwyr wrth eu bodd gydag ef. Un diwrnod, ar ôl bod yn hela a nifer gydag ef a llu o gurwyr, cymerodd yn ei ben y buasai'n sychu'r dafarn. Aeth â hwy gydag ef a thalodd am bob llymaid o gwrw oedd yno, ac ni chlywyd am y fath wledd â'r diwrnod hwnnw, na'r fath drai ag a welwyd drannoeth. Bu'n rhaid i nifer gerdded i Lanaled, lle'r oedd tair tafarn, i dorri eu syched. Deuai llu o Lerpwl ar adegau at y boneddwr uchod i saethu brain a phetris ac ieir y mynydd, a gelwid hwy yn "fyddigions Lerpwl"; ond methid yn lân â deall eu bod yn fyddigions. Credid mai rhyw hen siopwyr a thafarnwyr oeddynt. Nid oeddynt yn fyddigions iawn. Ni feddent yr hawlfraint i'w galw'n fyddigions. Nid oeddynt erioed wedi bod yn ddigon cymwynasgar i drawsfeddiannu rhannau o'r mynydd, a chodi crocbris o rent ar ei hen berchenogion amdano.
Er hynny, yr oedd yno bedwar boneddwr—hynny yw, rhai yn gallu byw heb weithio—sef Jac y Pandy, Jac Lanfor, Wil Lonydd a Thwm Poole. Yr oedd un peth yn gyffredin i'r pedwar.