Nid oedd neb yn cofio gweled yr un ohonynt yn gweithio i ennill ceiniog. Er hynny, edrychent yn raenus, a bu'r pedwar fyw i fyned yn hen. Ond gwahaniaethent yn eu modd o fyw, ac yr oedd gwahaniaeth mawr ym maintioli eu hystadau. Cynhwysai ystad Jac y Pandy bedair sir, a chymerai flwyddyn neu ragor iddo deithio dros ei ystad i gyd. Felly ni flinai ei denantiaid yn aml iawn. Dyn wedi ei witsio oedd Jac y Pandy—neu felly y credid amdano. Nid wyf yn sicr y credai ef ei hun hynny, oherwydd yr oedd yn gyfrwys fel llwynog. Y traddodiad oedd iddo, ac ef yn llanc ieuanc smart, fod yn canlyn geneth ieuanc brydweddol, ond iddo droi ei gefn arni, a bu iddi hithau gael gan rywun ei witsio neu ei offrwm i Ffynnon Elian. Yr oedd yn llawn ymdumiau ac ystrywiau; yn hen greadur brwnt a chas iawn os deallai na fyddai neb ond merched yn y tai pan alwai. Nid wyf yn cofio i mi glywed iddo erioed ofyn am damaid. Ei ddull oedd, pan ddeuai trwy lidiart y buarth ac i olwg y tŷ, dyweder rhyw ganllath oddi wrth y drws, gychwyn yn araf a throi neu facio yn ei ôl ddwsinau o weithiau, a deuai dipyn yn nes i'r drws bob tro; ac yn y diwedd, pan gyrhaeddai y drws, safai gan fwmian rhywbeth na ddeallai neb, a chilio yn ei ôl ac yna dyfod i'r drws. Ni allai gydio yn y frechtan pan âi rhywun ag un iddo am amser hir iawn. Cychwynnai gymryd gafael ynddi a thynnai ei law yn ôl ugeiniau o weithiau. Yr arfer gyffredin oedd ei rhoddi ar y wal, a gadael iddo ei chymryd pan welai'n dda a gallai wneuthur hynny'n handi iawn pan gredai na fyddai neb yn edrych arno. Clywais am un wraig wedi gwylltio'n gaclwm wrtho oherwydd ei ymdumiau, a dywedodd wrtho, Cydia yn y frechtan yma, Jac, ne mi dy hitiai di nes y byddi di'n rholio." "Rhowch hi ar lawr," ebe Jac, "mae hi'n rhy fechan i chwi a minne gydio ynddi hi." Cymerai amser hir i gerdded yn ôl at lidiart y buarth, a'r un fath ar hyd y ffyrdd; ond pan fyddai mewn lle unig, ac y meddyliai na fyddai neb yn ei weled, ar adegau felly gallai gerdded yn ddigon sionc. Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl gwelais ychydig o'i hanes yn Nhrysorfa'r Plant. Dywedid iddo fod heb ymweled ag un rhan o'i ystad am amser go hir, pan gyfarfu rhyw frawd ffraeth ag ef gan ei gyfarch, "Helo, Jac, o b'le dost ti? Mi glywes i dy fod ti wedi marw ers talwm." "Mi glywes inne hefyd," ebe Jac, "ond mi ddalltes i'n union mai celwydd oedd y stori."
"Jac y ffŵl" y gelwid ef yn Nhrysorfa'r Plant. Tebyg mai dyna oedd ei enw mewn rhai rhannau o'r wlad. Ond "Jac y