Tudalen:Cwm Eithin.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canent benillion gyda'r tannau tebyg i hyn[1] :—

Bachgen bach o Felin y Wig,
Welodd o erioed damaid o gig,
Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd i gap a rhedodd i ffwrdd.

Caru yn Nghaer a caru yn Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd a Derwen,
Caru mhellach dros y mynydd,
Cael yn Nghynwyd gariad newydd.

Neidiodd llyffant ar ei naid
O Lansantffraid i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;
Ond lle disgynnodd y drydedd waith
Ond yn nghanol caerau Corwen.

Dyfrdwy fawr ac Alwen
A aeth a defaid breision Corwen,
I'w gwneud yn botes cynes coch
I blant a moch Llangollen.

Ni allaf wneuthur yn well na gadael i "Lasynys" ddisgrifio'r Noson Lawen fel y'i ceir yn "Cymru Fu" "Llyfrbryf," 1864. Tebyg oedd ym mhob rhan o Gymru.

Awn i Gowarch, ac arhoswn yn yr Hafod noson gyfan. Ym mha le y cawn dammaid a llymmaid, neu "wlyb a gwely," chwedl pobl chwarelydd? Pob peth yn iawn, dim ond myned i Gowarch? Cwm ydyw Cowarch tua dwy filltir o hyd, afon wrth gwrs yn rhedeg drwy ei ganol, a digon o frithylliaid ynddi bob amser. Tai bob ochr i'r Cwm; rhai a'u talceni i'r allt, ac ambell un a'i gefn yno. Math o wtra, nid ffordd na llwybr sydd yno, yn dirwyn ar draws ac ar hyd, nes ein dwyn i le gwastad a fu unwaith yn fawnog, ond erbyn hyn sydd gyttir gwastadlyfn. Ym mhen uchaf y Cwm saif craig anferth fel mewn blys syrthio bob munud. Y mae ganddi hên wyneb

  1. Casgliad o lên—gwerin Meirion, gan William Davies, yn "Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Blaenau Ffestiniog, 1898." (1900).