Tudalen:Cwm Glo.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

DIC.-'Do's dim llawer o wahaniaeth gen-i beth 'ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara 'menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob?

BOB. Shwr o fod. Oni bai fod rhywbeth yn hynny 'fuase 'mo mam wedi trafferthu i'n dysgu ni i ofyn bendith, na dweud pader o ran hynny. A 'dyw Dic Evans ddim yn ddigon o ffwl i wneud hynny am gymaint o flynyddoedd os nad oes dim byd yn hynny. Pam na wnei di ddiolch am y bendithion 'ma, Id?

IDWAL (wrth eistedd).-'Dwn i ddim wir, Bob, ond mwya i gyd ddarllena-i, ag y meddylia-i, lleia i gyd y galla i weld bod gyda Duw,-serch pwy neu beth yw hwnnw- ddim byd i wneud ag e. Os gweithia-i i gael cyflog mi ga-i frecwast heb help neb. Os na cha-i gyflog mi ga-i drengi 'rwy'n ofni, heb i neb weld fy ngholli-i. DIC (yn bwriadu esbonio).-Ond Idwal, yn shwr i ti...

IDWAL (yn torri arno).-A oes rhywbeth yn y papur 'na

Dai? 'Welais-i ddim papur neithiwr, na' dim o hanes y pleidleisio ar oriau gwaith y ffatrioedd gwlân. Beth ddigwyddodd?

BOB (yn chwerthin).-'Dyw Dai ddim yn hitio dim am senedd na pholitics na fotio, nac am oriau gwaith neb arall, nac am Ragluniaeth na Duw chwaith. 'Gest-i lwc ar dy geffyl ddo', Dai?

DAI (yn codi ei ben o'r papur).-Eh? O do, was; do, do; os wyt-i am wybod; 10 to 1, 'machan i. A mae gen-i geffyl heddi 'e'd; snip 20 to 1. (Sylwa, trwy daro'i law yng ngwaelod ei focs ac edrych, fod hwnnw yn wag.