Tudalen:Cwm Glo.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

Cymer lwnc hir o'i jac, ac yna plyg i weld bocs Bob). Be' sy' gen't-i bore 'ma? Sandwitch wy, myn diawl i. He, he, he, fyti di 'mo rheina i gyd. Gad weld . . (Estyn ei ddwrn crabachlyd a thynn o'r bocs ddwy dafell, a chymryd dwy gegod heb aros).

BOB.-Hei, rho nhw 'nôl. I fi rhoth mam nhw, nid i ti.

DAI. Cer i grafu. (Cymer ddwy gegod arall). He, he, he.

DIC (wrth BOB).-Gad y ffwl i fod. Mae e mor ddi- gywilydd â mochyn. Weldi, mae gen-i afal iti. (Rhydd un iddo). A fyti di un, Id! (Teift un i hwnnw). Cymer.

BOB. Thenciw.

IDWAL. Diolch.} (Gyda'i gilydd).

DIC.--Mi ddylai fod yn gas gan dy galon di, Dai. DAI (yn fawreddog).-Ie, 'falle; ond 'does dim weldi. Gwrando Id, beth well wyt-i o foddrach am lywodraeth ac oriau gwaith! 'Oes swllt gyda thi? Rho fe i fi i roi ar Lucky Jim. Sure snip, 20 to 1.

DIC. Os yw'r gêm yna'n talu cystal i ti, pam wyt-i mor ddwl â dod lawr fan hyn? Mae'n dda bod y bois 'ma'n gallach na thi. (Try at IDWAL). Ar y radio neithiwr roedd e'n dweud i'r llywodraeth gario, a bod y bil yn saff hyd y committee stage.

IDWAL. Good. 'Rwy-i'n gobeithio..

DAI (fel pe heb glywed na Dic na IDWAL).-Dyma gyfle dy fywyd iti. Ceffyl first class! (Yn darllen o'r papur). "This gallop goes to show that Lucky Jim is now back on his best." Gordon Doni sy ar ei gefen e hefyd. "He went right away and finished ten lengths in front of Opojac." A dyna i ti frid, 'machan i. Pedigri!