Tudalen:Cwm Glo.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

IDWAL. Ie. Dyna fe.

DAI. Dyna ffwl wyt-i'n cabarddylu dy ben gyda hen ddwli fel'na.

IDWAL. O ca dy swn. Meindia dy fusnes. Cer mlaen a'th geffylau.

DIC.-Gad lonydd iddyn' nhw, Dai. Mae Idwal eisiau'r pethau 'ma erbyn ei sertifficet. 'Wyt i'n gwybod ei fod e'n mynd i eiste' ei ecsam yr haf 'ma?

DAI.-Be' dda yw stwff fel 'na, leiciwn i wybod. Dwli pen hewl.

IDWAL.-Prove that the square on AC equals the sum of the squares on the other two sides.

BOB.-Ie, ond sut?

IDWAL.-O'n rhwydd. From B drop a perpendicular on AC cutting AC..

DAI (gan blygu yn codi dyrnaid o lo mân gwlyb a'i daflu yn fflachter ar draws y diagram). Damo chi... He, he, he. Dyna spoilo'ch sport chi 'nawr, 'ta beth.

DIC (wrth IDWAL, sy'n codi ac yn bwgwth DAI).-Gad 'na fe, Id, y mochyn dienaid sut ag yw e. Der, byta dy fwyd. 'Does gyda ni ddim gormod o amser i gael. Ag 'rwyt-i'n cael blas ar y taclau 'na!... Fuodd gen-i ddim diddordeb ynddi nhw arioed 'Na fe, (a IDWAL wedi eistedd, mewn cywilydd at DAI, a rhyfeddod at ddoethineb Dic), cwpla dy fwyd.

BOB (yn torri'r tawelwch digysur).-Wel, wir, brecwast go brin sy gen-i heddi a ffido Dai a chwbwl.

DIC.-Hy, ie, wir, 'ngwas i; ond mi fydd bola Dai rhy dyn i blygu, mi allu fentro. Hwde (estyn gylffyn o fara