Tudalen:Cwm Glo.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

DAI. Y diawl, yn gwneud sport ar 'y mhen i! (Tyn bibell glai o'i boced). Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon 'nawr. (Edrych y tri yn syn arno, ac yna tery DIC ei law yn ôl chwap ar draws ei geg, nes bwrw'r bibell i'r llawr a chael gafael ynddi, a'i dal i fyny ennyd).

DIC. Ti yw'r diawl. Sut dest ti a honna lawr? Ac 'rwyt-i mor wan a chath fach, ac yn ddigon dwl i'w thano hi. (Briwia hi yn fân tan draed). Dyna!

DAI. O reit, o reit, 'rwyt-i'n barticular iawn. 'Doedd dim drwg yn hynna,-anghofio'i bod hi yn y boced 'ma wnes i. A 'rwyt-i wedi dod â gwaed i 'ngheg i.

BOB.-Anghofio tynnu dy bib o dy boced; ac anghofio rhoi baco i mewn. Good man, Dai!!

IDWAL.-A mi ddest-i off yn shêp â dim ond tipyn bach of waed o'th geg, my lad. A wyt ti'n gwybod y gellit-i gael jâl am hynna?

DAI (try ei gefn arnynt).-O ca dy lol !

DIC. Bob, faint o fwc sy'n dy dram di bore 'ma. 'Rwy-i'n siwr na ellit-i ddim llanw honna i gyd yn lân dy hunan; a ti llanwodd hi fwya, gynta. Os cewch chi'ch dal am lanw glo brwnt maes cewch chi fynd yn ben- dramwnwgl.

BOB (gan edrych ar DAI).-'Wedes i hynny wrtho fe. Mae'r glo 'rwy-i wedi roi ar y top yn iawn, ond ... wn i ddim be' sy'n ei chanol hi.

DIC.-Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot-ti, Dai.

DAI. Petai ti'n ffeierman mi fyddai raid i fi gael ryw ffordd arall 'falle. Ond mae Ianto Lloyd yn olreit