CWM GLO
(gan godi ei law at ei geg) peint bach yn y "Lion." Myn asen i bois 'rych chi'n dwp.
BOB. Ond beth 'se Morgan Lewis y manager yn dod lawr? Be' ddigwyddai inni wedyn?
DAI. Morgan Lewis! Yr hen gi. 'Does gydag e ddim byd i 'weud. Os dwed e rywbeth mi ro-i ei hanes iddo fe, reit inyff. Mae ei enw e'n drewi trwy Cwm Glo i gyd.
IDWAL. Ca dy geg Dai Dafis! Pa hawl sy gen-ti i ddweud dim byd am neb? Ca di dy geg am Morgan Lewis.
DAI. O, 'rwyt-i'n teimlo, wyt-i? Pam wyt-i'n teimlo 'te? Pwy eisiau iti deimlo sy?
DIC. Mae rheswm ar bopeth. 'Rwyt i wrth dy fodd yn chwilio popeth gwael am bawb. Dim ond celwyddau dynion o dy deip di sy am Morgan Lewis. Mae'n well i chi ofalu neu fe gewch chi'ch hunan mewn twll y gwrdrwg maes o law.
DAI. O'r sant, sut ag wyt-i. 'Does dim raid iti fecso am dana-i, mi alla-i brofi popeth wy-i'n weud.
IDWAL.-Dai, os na ofeli di, mi ro-i fonclust iti 'nawr, a bod yn falch o wneud un tro da am heddi 'ta beth.
DAI. Mi neiset-i Foy Sgowt go dda, siwr o fod. Dyna pam mae Bet Lewis yn dy leicio di fallai! Ar y fencoes-i Id, mae gen-ti cheek yr Hen Foi i hongian am bwyti tŷ'r Manager ac esgus caru ei chwaer. (Yn crechwen yn ffiaidd). Fallai i bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd.
DIC.-Er mwyn y Nefoedd, dal dy dafod, Dai.