Tudalen:Cwm Glo.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

IDWAL.-Gedwch 'na fe, mi ddwed rywbeth heb fod yn hir y bydd raid imi roi whelpen iddo fe. Mi fydd hynny'n siwr o gau ei geg e. (Cyfyd at ei waith wedi cael câs ar siarad DAI).

DAI. Stic di at Bet, my boi. Duw wyr be' gei di gyda'r hen Foc, ond 'dwy-i ddim yn credu cei di Bet gydag e'n glou iawn. Fallai fod cwestiynnau ar bethau fel'na yn yr ecsam. He, he, he.

IDWAL (yn troi yn 6l eto).-Weldi 'ma Dai, dyna ddigon 'nawr. Cod lan i mi gael rhoi taw arnat-i. Cod lan, y blagard sut ag wyt-i! (Nid yw DAI yn symud. Neidia BOB o'r ffordd i roi lle i'r ymladd y carai ef ei weld). BOB. Go on, Id. Dere mlaen Dai. 'Rwyt-i'n bostio dy fod ti'n gallu ymladd. Nawr 'te, dere mlaen!!

DIC. Gad lonydd iddo, Idwal. Paid â gwneud sylw ohono. Dim ond dy bryfocio di mae e, i'th hela di'n grac. (Try IDWAL ymaith). Ond 'wyddost-i Dai, rwyt-i'n haeddu'r goten orau gest-i erioed am siarad fel 'na.

DAI (yn chwerthin).-Diaist-i mae Idwal yn meddwl tipyn o Bet. Mi ges-i beth o'i ofan e 'nawr. (A BOB yn 61 at ei waith a chlywir ef yn cynghori IDWAL, sydd yn hongian ei got a chrynhoi ei bethach).

BOB. Mi ddylet-i fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e.

IDWAL. Mae'n well iti ofalu na chlyw e di. Mi fydd raid i ti weithio gydag e o hyd, cofia.

BOB (wrth fynd o'r golwg).-O, 'does dim o'i ofan e arna-i.

DIC (wrth grynhoi ei focs, yn codi ar ei ben lin).-'Ddylet-i ddim siarad felna' o flaen y bois 'ma.