Tudalen:Cwm Glo.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

ar ei draed gan edrych i lawr ar DAI). Dai, pob lwc iti. Mi ddylet ddod i benshwn am beidio â gweithio, neu am hau celwyddau. Yr unig biti yw fod y bois bach 'ma yn dy ofal di. Os na ofeli di mi fyddi wedi dwyn ei job oddi ar Bob a'i roi e ar yr hewl heb na dôl na dim. Ac os bydd e gyda thi'n hir mi fydd heb ei. gymeriad hefyd mae arna-i ofan. (Y mae yn symud ymaith).

DAI. Ym mhle wyt-i'n pregethu dy' Sul? Mae'n well iti fynd lawr ar dy liniau nawr i gadw cwrdd diwygiad. Weldi, 'ma emyn newydd iti, newydd sbon:-

"Aeth croten fach ifanc o Ryl . . ."

(Clywir sin troed cyflym yn dod trwy'r twnnel chwith). 'Ma'r hen Ianto Lloyd yn dod. (Try i edrych a gwel olau coch; mae yn gwylltio, yn neidio ar ei draed ac yn crynhoi ei focs a'i jac, ond y mae'r papur ar lawr yn agored ac yn anniben). Nage, myn yffern i, Morgan Lewis, y manager... (Hawdd canfod ei fod mewn pen- bleth a gwylltineb).

LEWIS.-Bore da, Dai.

DAI. Bore da, syr. Mae hi'n fore ffein.

LEWIS. Sut mae pethau'n mynd?

DAI.-Gweddol. Talcen go galed.

LEWIS.-Ie, fel arfer, mae'n debyg. (Mae DAI yn symud tua'r ffâs). Pam wyt-i'n colli cymaint o amser 'nawr yn ddiweddar?

DAI.-'Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr.

LEWIS.-Dai bach, wyt-i wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni? Mi glywais dy fod