Tudalen:Cwm Glo.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

wedi meddwi'n garn echnos. Ym mhle wyt-i'n cael arian i dorri peth o'r syched ofnadwy 'na sy'n dy flino di? (Gwel y papur ar lawr a rhydd flaen ei ffon drwyddo a'i godi). Rwyt-i ar y bws bob tro daw ceffyl adre mae'n debyg. Mae gen-ti ffitach gwaith i'th geiniogau, siwr o fod. (A heibio i DAI, a heibio i'r tram lo ac i mewn tua'r ffás, a chlywir ei lais o bell yn cyfarch BOB yn siriol). Sut wyt-i, boi bach? Wyt-i'n cael digon o waith.... Gofala am y lamp yna.

BOB.-Reit, syr.

DAI (wrtho'i hun, a chrechwen ar ei wedd).-Dyma beth yw lwe y diawl, a 'does dim cocso arno fe. (A at y tram lo). A mae golwg shêp ar hon hefyd. . . . Yr hen grwt bach y cythraul-'na. Damo, damo, damo . . . (yn rhegi tan ei ddannedd, fel na ddeellir ei eiriau, ond darllenir ei osgo).

LEWIS (o'r tu mewn).-Arnat-i neu Dai mae'r bai am yr holl lo mân yma sy tan draed? 'Rych chi braidd yn an- niben gyda'ch gwaith. Bydd yn fwy cryno, machgen i. (Daw yn ôl at y tram lo, a chwalu'r talpau ar ei phen hi a'i law: edrych yn fwy craffus arni: dyd ei law i mewn rhwng y talpau, a chodi dernyn o slag i'r golwg a'i daflu i'r llawr. Y mae DAI yn myned heibio iddo yn ôl i'w ffas). Dysg y crotyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychryn- llyd. (Daw ei law ar draws telpyn arall o slag a gesyd ef ar ymyl y dram, yn y golwg. Wrth iddo alw ar Dai á heibio i du blaen y dram a sefyll ar yr ochr isaf iddi. Pan ddaw DAI allan saif ef lle safasai MORGAN LEWIS). Dere yma Dai... ar unwaith!