Tudalen:Cwm Glo.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

DAI (o'r tu mewn).-Reit. (Wedi iddo ddod i'r golwg). Beth sy'n bod, Syr, dyma f...?

LEWIS (yn torri ar ei draws).-'Rwy-i wedi sylwi bod lot o fwc yn cael ei dipio'r diwrnodau diwetha 'ma.

DAI (yn ansicr a ddisgwylir iddo ef ddywedyd dim).-Oes e? O...?

LEWIS.-Ac y mae lot o slag yn hon. (Teifl y talpau sydd ganddo ar ochr y dram i'r llawr). 'Dyw hyn ddim yn ddigon da. (Dyd ei law i mewn ym mherfedd y tram a thyn allan ddyrnaid o lo mân gwlyb, a'i gario yn ei law i ganol y llwyfan. Mae llygaid DAI yn ei ganlyn ac y mae ansicrwydd yn ei wedd). 'Does dim rhyfedd nad 'ym ni'n gallu gwerthu glo. Beth wyt-i'n ddisgwyl ond colli marchnadoedd â glo fel hyn! (Gad i'r glo ddrip- ian rhwng ei fysedd i'r llawr). A thi a'th short fydd y cynta i achwyn pan fydd y pyllau yma wedi eu cau.

DAI (fel llechgi).-Y crwtyn 'na, syr. Bob... Bob, dere 'ma.

LEWIS. 'Rwy-i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn 'na'n iawn. Sawl tram wyt-i wedi lanw heddi?

DAI. Hon yw'r cynta bore 'ma... Ond 'rwy-i wedi bod yn disgwyl yr halier os amser 'nawr, syr.

BOB (yn dod i'r golwg).-Oe't-i'n galw, Dai?

LEWIS.-'Does dim o'th eisiau di. Cer 'nôl at dy waith machan bach i.... Na, ateb... Ti lanwodd y dram yma?

BOB.-Fi rasodd ei thop hi, syr.

LEWIS.-A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chywi'r bore 'ma! Pam hynny?