CWM GLO
maes fan hyn i chi gael y pres. 'Rwy i'n hen barod...
DIC. Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis.
LEWIS.-Beth well fydda-i. 'Run peth yn union fydd e. Na, alla-i ddim rhoi cynnig arall iddo fe.
DAI.-'Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto-i. He he he, bachan pert yw ei ddanod ceffylau a chwrw i fi. Mae ceffylau a chwrw yn respectable wrth rai o'r pethau mae fe'n eu henjoyo,-mae gwinoedd a ...
LEWIS. O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti. Galw am dy gardiau yn yr offis.
DAI.-Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid! A mi ddaw, o daw, daw. Mi fydd y cwmni'ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna-rhy hen a rhy stiff i blygu.
LEWIS. A glywaist-i fi'n dweud wrthyt-i am fynd? Nawr te!
DAI. Do, do, mei boi. A glywaist-i fi'n dweud wrthyt-i a Dic? Mae digon o fois ifainc ar yr hewl 'nawr i lanw'ch lle chwi. . . . Mi fydd Idwal yn fanager ryw ddiwrnod 'falle-os caiff e chware teg. He, he, he. (Aeth MORGAN LEWIS i mewn i'r ffas rhag clywed rhagor). Reit mei bois (wrth fynd i'r twnnel ar y chwith). A gwnewch fel mynnoch chwi â'ch job!... Piclwch hi! (A'r golau'n is).
DIC (wedi i DAI fynd o'r golwg).-Wel, wel !... Mae byd pert o'i flaen e', druan; a'i deulu hefyd. . . . Wel, wel, .. (Try i'w le). (A'r golau'n is).
LLEN.