Tudalen:Cwm Glo.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

YR ACT GYNTAF

GOLYGFA II

Cegin Ty Glowr... yn hwyrach yr un bore.

Cegin dlodaidd yr olwg arni sydd o'n blaen; y defnydd yn y gadair a'r soffa, a'r llenni ar y ffenestr sy'n awgrymu hynny. Eithr tlodi a welir ac nid diffyg gofal; y mae'r cyfan yn lân a thaliaidd. Ar y chwith egyr dau ddrws. A'r uchaf ohonynt i'r cefn, a'r llall at waelod y stâr i'r llofft; trwyddo hefyd yr eir i'r heol. Yn y cefn y mae'r ffenestr, ac o tani y saif y soffa. Y mae llun teuluaidd neu ddau o bob tu i'r ffenestr. Ar y dde yn y gornel uchaf y mae cwpwrdd yn y wal. Yn y canol y mae'r lle tân a ffwrn ar un ochr iddo. Ar y fantell gwelir dau neu dri o ganwyllarnau prês, canister neu ddau a blychau tin. Bydd roden o tan y fantell, a lliain llestri un pen iddi, a lliain dwylo ar y pen arail. Saif dwy gadair freichiau un bob ochr i'r tân,-un isel esmwyth (rwyllog) ar yr ochr isaf, ac un â chefn uchel hen ffasiwn yr ochr arall. Ar ganol y llawr y mae bord ac arni dorth a llestri. Tu ôl i'r ford y mae stol, a stol o dan y talcen nesaf i'r tân. Tân bach sydd yn y grât.

MRS. DAVIES (yn ffwdanu wrth arllwys dur poeth i'r tebot a gosod hwnnw ar y pentan, ac yna'n troi at y ford i dorri bara menyn; nid oes ond tamaid bach o fenyn ar y plat).-Mae Marged yn hwyr, odi hi ddim? 'Chlywais i ddim o'r plant yn pasio gynnau 'te? (Try at y tân, a throi'r te yn y tebot â llwy). Mi ddaw 'nawr, mor