Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffyrdd, y comins, a'r tiroedd agored, i durio am chwilod, gwreiddiau, a rhyw fath o ymborth a ddichon gael. Yn ol y dull yma o ymddwyn tuag ati, anaml y mae mwy nag un torllwyth, neu ddau yn y man pellaf, i'w cael oddiwrthi yn y flwyddyn; ac nid yw y moch bach, trwy ddiffyg gofal priodol, prinder bwyd, a chyflwr gwanllyd y fam, ond prin werth haner y pris a ddylent gyrhaedd yn gyffredin."

Pa mor bwysig bynag ydyw digonedd o ymborth, a hyny yn rheolaidd, nid weithiau gormod a phryd arall rhy fychan, y mae yn ofynol cofio fod glanweithdra a chlydwch yn llawn mor bwysig er sicrhau llwyddiant.

SYLWADAU TERFYNOL AR Y PEN HWN.

Nid oes unrhyw anifail yn geni ei rai bach yn rhwyddach a mwy didrafferth, yn gystal ag yn ddyogelach nag y mae yr hwch, ac y mae hyny yn beth mawr; ac y mhellach, hyd y gwyddys, nid oes un anifail yn llai darostyngedig i afiechydon nag ydyw y mochyn; er eu bod hwythau, fel y cwbl o waith llaw yr Hollalluog, yn agored i ryw annhrefn weithiau yn eu cyfansoddiad, naill ai trwy aflerwch dyn, neu ynte eu hesgeulustra eu hunain. Ond cawn sylwi ar hyn rhagllaw, dan y penawd AFIECHYDON MEWN MOCH.

Bydded i ni yn awr gymharu yr enillion a geir trwy gadw hwch fagu, ar gyfer yr enill a geir trwy fagu a phesgi mochyn at ei ladd er mwyn cael ei facwn. Wel, yr ydym yn prynu mochyn ieuangc am 18s.; y mae y draul o'i gadw tra y mae yn tyfu i fyny i'w gyflawn faintheb, ioli oddeutu yr un faint a chadw hwch-ceiniog yn y dydd; neu 30s. yn ystod y deuddeng mis. Yn awr, Lorfatybiwch eich bod yn dechreu pesgi y mochyn yn yr oed yma; bydd iddo fwyta 8 cant o flawd i'w wneyd yn ddigon tew i bwyso, dywedwch, ugain ugain, neu bedwar cant, a bydd yn werth £10; dengys hyn fod £6 Ss. allan o £10, wedi ei dreulio ar y mochyn yma, gan adael £3 12s. o enill ar gyfer £38 a enillid trwy yr hwch fagu yn ystod pedwar mis ar bymtheg! oblegyd gellid gwneyd hyny yn glir oddiwrthi yn yr yspaid hwnw o amser, fel y dangos-