Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mochyn i'w besgi ar gyfer pob un a geidw hwch, nid oes dim perygl na bydd digon o ofyn bob amser ar foch bach, ac na bydd eu prisiau byth yn îs o lawer nag y maent ar yr adeg bresenol."

PA FATH HWCH FAGU I'W PHRYNU.

Wrth brynu hwch fagu, y mae yn ofynol i chwi edrych allan eich bod yn cael hwch "agored," neu un heb ei dyspaddu. Dylai fod o hyd da o ran ei chorph, ac o un o'r rhywogaethau mawrion Prydeinig diwygiedig. Nid yw byth yn talu i gadw un o'r creaduriaid garw, esgyrniog, hirgoesog, a haner newynllyd hyny ag a welir yn cael eu cadw mor fynych gan lafurwyr ar gommins neu diroedd wâst; y maent yn fwyteig tu hwnt i bob rheswm—gofynant gymaint ddwywaith o ymborth i'w cadw mewn cyflwr da ag a aiff i gadw hwch o rywogaeth ddiwygiedig yn y cyffelyb gyflwr. Gellwch wybod yn lled dda i ba faintioli y tŷf y perchyll, oddiwrth faint ac ymddangosiad y fam, yr hon y dylech bob amser fod yn awyddus am ei gweled. Os bydd yu bosibl, ceisiwch hwch ag y byddo ychydig o groesfridiad mochyn China ynddi, fel y mae yn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau diwygiedig; y mae hychod felly yn hawdd eu cadw mewn cyflwr da, a phob amser yn meddu torllwythi lluosog. Gellwch gael hwch o'r fath a ddysgrifiwyd am oddeutu deunaw swllt, yn wyth neu ddeng wythnos oed. Beth bynag a wnewch, byddwch yn ofalus i gael hwch fagu o rywogaeth dda.

PA FODD Y DYLID CADW HWCH FAGU.

Y mae yr un awdwr yn myned yn mlaen, ac yn dy-wedyd: "Pan yn son am gadw hwch fagu, yr wyf yn meddwl un fel ag y dylid ei chadw. Y mae dwy ffordd o gadw hwch-un ffordd yn enillgar, a'r llall yn golledus. Ni wnaiff y tro eu cadw fel y cedwir hwy yn fynych. Nid oes, yn fy meddwl i, yr un math o fochyn mor dueddol i gael ei esgeuluso a'r hen hwch; dysgwylir iddi hi ymdaro drosti ei hun, yn debyg i'r modd y gwna ffowls y ffermwr, yn y modd goreu y gallant!' Fel rheol, y mae yr hwch fagu yn cael rhy fychan o ymborth, yn byw mewn cwt budr ac mor deneu a milgi, yn rhedeg ar hyd