Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lleoedd poblog, y mae y pris yn gyffredin yn fwy na £1. Gan hyny, nid oes dim i rwystro i neb wneyd yr enill uchod yn y rhan fwyaf o ardaloedd ein gwlad. Dylai hwch fagu dda ddwyn deg o foch bach o leiaf yn mhob torllwyth.

Nid oes dim mwy o anhawsder, ac y mae llawer iawn llai o gost, i gadw hwch fagu, nag i besgi mochyn trwy yr haf at ei ladd yn y gauaf er cael bacwn; ac y mae yn ddyogel genym, oddiwrth y profiad a gawsom, yn ol prisiau cyffredin grawn a blawd, fod yr enill yn anghydmarol fwy wrth gadw hwch nag wrth fagu a phesgi mochyn, naill ai at borc neu facwn.

Y peth mwyaf gwerthfawr mewn cysylltiad â'r hwch ydyw

EI NATUR EPILGAR,

a'r cyflymder â pha un y mae yn dwyn torllwyth ar ol torllwyth i'r byd, a'r oedran cynar yn mha un gellir diddyfnu ei moch bach, a'u gwerthu; a thrwy gadw hwch fagu y gellwch fwynhau y manteision hyn, y rhai ydynt un o'i phrif ragoriaethau. Y mae ar gof a chadw mewn hanes fod un Mr. Tilney, o Essex, ar un pryd yn feddiannol ar hwch a ddygodd iddo 301 o foch bach mewn tri thorllwyth ar ddeg, ac y mae Mowbray yn crybwyll am hwch a fagodd bedwar ar bymtheg o foch mewn un torllwyth. Nid yw torllwyth o ddeuddeg, pedwar ar ddeg, neu un ar bymtheg, ond pethau cyffredin iawn.

Yn y fan hon ni a ddyfynwn dystiolaeth gŵr enwog arall ar y cwestiwn dan sylw:

"Yr wyf fi yn credu y byddai i'r rhan fwyaf o lafurwyr ag oedd yn cadw un mochyn, gael allan y byddai yn llawer mwy enillgar iddynt gadw hwch fagu, hyd yn nod pe byddai raid iddynt werthu ei moch bach am nawswllt neu ddeg yr un, yn hytrach na magu mochyn i'w besgi. Gellir cael 'nerobau o facwn (o'r fath ag ydyw) mewn unrhyw gyflawnder o wledydd tramor, lle y mae ŷd yn rhad, i gydymgais â'n marchnadoedd ni gartref. Ond nid felly gyda moch bach; nid oes berygl am unrhyw gydymgais tramorol gyda hwy, ac mor bell ag y byddo 99 allan o bob 100 o fagwyr moch yn y wlad hon yn cadw